Argyfwng y coronafeirws - Neges gan y Prif Swyddog Tân
Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae yn ystod argyfwng y coronafeirws.
Bydd ein gwasanaeth tân ac achub yn parhau i weithio i gynnal diogelwch ein staff a’n cymunedau wrth i ni ymuno gyda’n partneriaid i wneud yn siŵr mai’ch diogelwch chi ydi’r brif flaenoriaeth.
Ond, mae gennych chi, y cyhoedd, ran bwysig i’w chwarae.
Yn gyntaf - cadwch at y canllawiau cadw pellter cymdeithasol i'n helpu ni i gyd i gadw'n ddiogel a helpu i achub bywydau. Gyda'n gilydd gallwn diogelu Cymru.
Yn ail - tra byddwch gartref y gymwynas fwyaf y gallwch chi ei gwneud â ni ydi cymryd pwyll arbennig, er mwyn lleihau’r galw am ein gwasanaethau.
Gwyddwn o brofiad fod pobl mewn mwy o berygl o dân pan fyddant yn treulio mwy o amser yn y cartref.
Felly, rwyf yn erfyn ar bawb i gymryd pwyll arbennig i’n helpu ni i atal digwyddiadau yn y lle cyntaf.
Bydd hyn yn helpu i leihau’r pwysau ar yr holl wasanaethau brys a’n sefydliadau partner.
Dyma gyngor sylfaenol - medrwch hefyd ein dilyn ni ar Facebook a Twitter am gyngor pellach ar yr hyn y gallwch chi ei wneud i gadw’n ddiogel yn y cartref a’n helpu ni i amddiffyn ein cymunedau.
- Profwch eich larwm mwg – gofalwch am eich larwm er mwyn iddo ofalu amdanoch chi
- Mae nifer o danau yn cychwyn yn y gegin - mae un peth bach yn ddigon i fynd â’ch sylw
- Mae ysmygu yn achos tân cyffredin - felly diffoddwch hi, yn llwyr
- Gyda llond tŷ, gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n gorlwytho socedi trydanol
- Diffoddwch bopeth cyn mynd i’r gwely - mae nifer o danau yn y cartref yn cychwyn yn y nos
- Anogir ffermwyr a pherchnogion tir i osgoi llosgi ar eu tir - ond os es wir raid, mae’n rhaid rhoi gwybod i’r ystafell reoli ar 01931 522 006.
Mae gennyf hefyd apêl frys i bobl feddwl yn galed am ganlyniadau eu gweithredoedd - mae’n dorcalonnus clywed bod ein criwiau wedi cael eu galw at danau bwriadol yn ystod yr argyfwng cenedlaethol hwn pan ddylai pawb fod yn cyd-dynnu.
Mae ymddygiad o’r fath yn gwbl annerbyniol. Rhaid i drigolion leihau’r galw ar ein diffoddwyr tân ar yr adeg dyngedfennol hon - dydi ymddygiad fel hyn ddim yn ein helpu ni i gadw ein cymunedau’n ddiogel. Fe ddylai rhieni yn enwedig wneud yn siŵr bod eu plant yn aros gartref.
Rydym ni’n dal i fod yma i chi mewn argyfwng - ffoniwch 999 os cewch dân yn eich cartref neu’ch busnes.
Gwyddwn fod pethau’n anodd i fusnesau ar hyn o bryd - rydym ni’n dal i fod yma i chi os oes angen cyngor arnoch ar leihau’r risg o dân wrth i chi ddelio gyda heriau newydd.
Gyda’n gilydd gallwn oroesi’r argyfwng hwn. Gyda’n gilydd gallwn gadw’n ddiogel.
Diolch i bob un ohonoch am eich dealltwriaeth a’ch cefnogaeth barhaus.
Gallwch wylio cyngor gan ein Uwch Reolwr Diogelwch Tân, Paul Scott yma.
Diogelwch Tân Gwyllt a Choelcerthi
Fel arfer rydym yn eich cynghori i fynd arddangosfa wedi ei threfnu yn hytrach na pheryglu eich hun drwy drefnu noson dân gwyllt adref neu gynnau coelcerth yn yr ardd gefn.
Yn anffodus, fel cymaint o ddigwyddiadau eraill, mae'r coronafeirws wedi effeithio ar noson tân gwyllt.
Er ein bod ni am i bawb fwynhau eu hunain, gofynnwn i chi feddwl sut i Ddiogelu Cymru ar Noson Tân Gwyllt a pheidio â lledaenu'r coronafeirws.
Darllenwch mwy yma am ein cyngor diogelwch yn ystod noson Tân Gwyllt.