Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diogelwch ar y ffyrdd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ynghyd â'n partneriaid diogelwch ar y ffyrdd (Heddlu Gogledd Cymru/y Gwasanaeth Ambiwlans/Beicio Diogel a PhentrePeryglon), yn gweithio'n galed i addysgu gyrrwr, pobl ifanc dan 25 yn benodol, am beryglon gyrru'n anghyfrifol neu mewn modd amhriodol. 

Er nad yw gyrwyr ifanc yn cyfrif am ddim ond 10% o’r boblogaeth sy’n gyrru, mae 25%  o'r holl yrwyr sy’n cael eu lladd mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd  rhwng 17-25 oed, ac mae mwy o bobl yn y grŵp oedran hwn yn cael eu lladd o ganlyniad i wrthdrawiadau ar y ffyrdd nac o ganlyniad i unrhyw beth arall.

Ein bwriad yw addysgu a hysbysu gyrwyr ifanc a theithwyr drwy ymgysylltu â hwy mewn sawl ffordd gan gynnwys Pass Plus Cymru a’r sioe deithiol "Effeithiau Angheuol" a gyflwynir i fyfyrwyr sydd ar fin neu newydd basio eu prawf gyrru mewn colegau ac ysgolion ar hyd a lled Gogledd Cymru. 

Yn 2014-15 cyflwynwyd y sioe deithiol "Effeithiau Angheuol" i 3,750 o fyfyrwyr.  Mae hwn yn gyflwyniad grymus, di-flewyn ar dafod sy’n amlygu canlyniadau trasig gwrthdrawiadau angheuol ar y ffordd i bobl ifanc a theithwyr.    Yn ychwanegol, rydym yn cynnal nifer o weithgareddau estyn allan er mwyn ymgysylltu â gyrwyr ifanc gyda'n Subaru Impreza Sti ac yn trafod diogelwch ar y ffyrdd gyda nhw ochr yn ochr â swyddogion Heddlu Gogledd Cymru fel y gallwn "chwalu’r rhwystrau" ac annog pobl i yrru'n gyfrifol.

Cliciwch yma i weld Strategaeth Diogelwch y Ffyrdd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru 2015-16.

Os ydych angen rhagor o wybodaeth am ddiogelwch ar y ffyrdd, mae croeso i chi gysylltu â'r Adran Diogelwch Cymunedol Ganolog ar 01745 352 693.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen