Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cwrdd â’r Tîm

Thomas Plant – Cydlynydd y Ffenics

Ymunodd Thomas â Gorsaf Dân Caergybi fel diffoddwr tân rhan amser / ar-alwad yn 2003 a symudodd yn ddiweddarach i Fae Colwyn yn 2015, cyn dod yn ddiffoddwr tân llawn amser / gwledig yn 2014. Ymunodd â Phrosiect Phoenix yn 2022.

Dywedodd: "Rwyf wedi bod yn gweithio i'r gwasanaeth tân ac achub ers bron i 20 mlynedd. Rwyf wedi mwynhau gweithio fel diffoddwr tân ar-alwad am 11 mlynedd ac yn ddiweddarach fel diffoddwr tân llawn amser. Mae fy nghyflawniadau diweddar wedi cynnwys bod yn rhan o'r tîm sy'n ysgrifennu ein modiwlau e-ddysgu ar-lein ar gyfer y Gwasanaeth ac mewn cydweithrediad â gwasanaethau tân ac achub eraill yng Nghymru a’r DU gyfan.

“Mae gweithio fel Cydlynydd Prosiect Phoenix yn fy nghadw’n brysur iawn, gan weithredu egwyddor graidd y Gwasanaeth o roi ‘pobl’ ar flaen y gad ym mhopeth a wnawn – ac yn sicr nid yw ein ‘pobl ifanc’ yn cael eu gadael allan."

 

Gillian Roberts – Cydlynydd Cynorthwyol y Ffenics

Cychwynnodd Gilian ar ei gyrfa yn y maes gweinyddol cyn penderfynu ymgymryd â chwrs hyfforddi athrawon ac yna ymuno â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn 2006. Fe weithiodd i ddechrau gyda'r adran Diogelwch Tân Cymunedol yn mynd o amgylch ysgolion Gogledd Cymru i rannu negeseuon diogelwch tân; yna cafodd ei phenodi yn Gydlynydd Cynorthwyol Y Ffenics ym mis Mehefin 2009.

Wedi ei geni a'i magu yng Ngogledd Cymru, mae Gill yn byw yn Nyffryn Conwy, mae Gill wrth ei bodd gydag anifeiliaid a byd natur, ac un diwrnod mae'n gobeithio teithio’n bell i weld yr Eirth Gwynion, Borneo i weld yr Orang-wtaninad a Serengeti i weld yr anifeiliaid yn ymfudo. Mae hi hefyd yn hoff o sgwba-blymio, ond dim ond mewn moroedd trofannol!

 

Brian Drawbridge – Cynorthwyydd Ffenics

Mae Brian yn byw yng Nghonwy ar ôl symud i’r ardal yn 11 oed. Ymunodd â thîm Ffenics ym mis Medi 2017. Ymunodd Brian â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ym mis Ionawr 2010 fel diffoddwr tân rhan amser yn gwasanaethu gorsaf dân Conwy ac mae’n parhau gyda’i ddyletswyddau gweithredol ynghyd â’i rôl fel Cynorthwyydd Ffenics. Cyn ymuno â’r Gwasanaeth Tân, roedd Brian yn hyfforddwr gyrru ac yn rhedeg ei ysgol yrru ei hun am 10 mlynedd. Y tu allan i’r gwaith mae’n mwynhau chwaraeon modur, gan cymryd rhan a mynychu, ac mae hefyd yn mwynhau treulio amser gyda’i deulu.

 

Olwen Griffiths - Gweinyddwr y Ffenics

Cychwynnodd Olwen ei gyrfa ym maes Cyllid. Ar ôl cael plant, hyfforddodd fel Therapydd Harddwch a bu'n rhedeg Salon Harddwch yn Rhuthun. 

Yn fwy diweddar, bu'n gweithio fel Swyddog Arholiadau mewn ysgol Gymraeg leol, cyn ymuno â GTAGC yn 2019. 

Mae Olwen yn byw yn Llanarmon Yn Iâl ac mae'n siaradwr Cymraeg rhugl. Mae'n aelod o gôr cymunedol lleol ac yn mwynhau mynd â'i chŵn am dro gyda'i theulu a'i ffrindiau.  

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen