Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tai - Diogelwch Tân

Lansiwyd dogfen newydd, sef Canllaw Diogelwch Tân Cenedlaethol, gan Reoliadau Llywodraeth Leol (Cydgysylltwyr Gwasanaethau Rheoliadol yr Awdurdodau Lleol yn flaenorol - LACORS) ar 23ain Gorffennaf 2008.

Datblygwyd 'Tai - Diogelwch Tân' gan LACORS, Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân a Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH). Mae swyddogion Cymunedau a Llywodraeth Leol wedi darparu cryn gefnogaeth dechnegol ac mae'r canllawiau'n cynnwys rhagair gan Weinidogion Tân a Thai Cymunedau a Llywodraeth Leol.

Mae'r canllaw yn gymwys yn genedlaethol ac yn cynnwys rhai llety preswyl cyfredol gan gynnwys annedd teulu sengl, tai a rennir, fflatiau un ystafell a fflatiau. Nid yw wedi ei anelu at gartrefi newydd sydd wedi eu hadeiladu i gydymffurfio gyda Rheoliadau Adeiladu modern. Mae'r canllaw yn mabwysiadu ymagwedd yn seiliedig ar risg tuag at ddiogelwch tân fydd yn bodloni Deddf Tai 2004 a Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005. Mae'n cynnwys canllaw i landlordiaid ar sut i wneud asesiad risg, cyngor ar sut i gadw adeiladau preswyl yn ddiogel rhag tân ac yn cynnwys amrediad o astudiaethau achos.

Mae'r canllaw'r un mor berthnasol i landlordiaid, asiantaethau rheoli, cynghorau lleol ac awdurdodau tân ac achub. Mae'r canllaw yn gymwys i sectorau tai preifat a chymdeithasol a bydd yn helpu i fabwysiadu ymagwedd sy'n seiliedig ar risg fwy cyson.

Bydd landlordiaid sy'n dilyn y canllawiau yma mewn sefyllfa dda i fodloni gofynion a osodir o dan ddeddfwriaeth diogelwch tân.

I lawrlwytho fersiwn PDF o'r canllaw yn rhad ac am ddim, cliciwch yma

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen