Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwarchod Plant

Mae Llywodraeth Cymru, mewn ymgynghoriad ag Arolygiaeth Gofal Cymru a PACEY Cymru (Cyngor Proffesiynol ar gyfer Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar), wedi llunio canllawiau ddefnyddiol: Diogelwch Tân: canllawiau ar gyfer safleoedd gwarchod plant.

Mae’r canllawiau’n darparu gwybodaeth ynglŷn â’r ffyrdd gorau o leihau’r risg o dân yn eich cartref ac maent yn delio â llwybrau dianc, cynlluniau dianc o dân, larymau mwg, lle cysgu a rhagofalon cyffredinol eraill. Bydd y camau y dylech eu cymryd yn dibynnu ar amgylchiadau penodol eich cartref chi, ei breswylwyr a’r plant yr ydych yn gofalu amdanynt. Fel gwarchodwr plant, dylech chi geisio diogelu unrhyw un ar eich safle rhag niwed a achosir gan dân. Mae cynnal asesiad risgiau tân yn rhan hollbwysig o ddiogelwch tân yn gyffredinol yn eich eiddo. Yn cyd-fynd â’r ddogfen, mae templed hawdd ei ddefnyddio ar gyfer asesu risgiau tân, sydd wedi’i ddylunio’n arbennig ar gyfer gwarchodwyr plant a’u cartrefi ac mae modd ei addasu ar gyfer eich anghenion chi.

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn disgwyl i chi gynnal asesiad risgiau diogelwch tân i gydymffurfio â’r gofynion sy’n ymwneud â rhagofalon tân yn y Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 fel y’u diwygiwyd, a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant Rheoleiddiedig i blant hyd at 12 oed. Mae hyn yn gymwys i gofrestriadau newydd ac i wasanaethau sy’n bodoli eisoes.

Mae’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru yn llwyr gefnogi’r canllawiau hyn ac maent yn annog unrhyw un sy’n warchodwr plant i lawrlwytho’r dogfennau.

Ewch i https://llyw.cymru/diogelwch-tan-canllawiau-ar-gyfer-safleoedd-gwarchod-plant-html i lawrlwytho copi AM DDIM o’r canllawiau a’r templed ar gyfer asesu risgiau tân.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen