Diogelwch Tân yn ystod Eid al-Fitr ac Eid al-Adha
Gall y perygl o dân gynyddu yn ystod gwyliau crefyddol pwysig.
Eid - gair o gyngor ar ddiogelwch tân
- Gwnewch yn siŵr fod gennych larymau mwg ar bob llawr yn eich cartref – profwch nhw bob wythnos i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio.
- Rydym yn eich annog i fod yn arbennig o ofalus fod eich dillad yn cael eu cadw draw o fflamau noeth, i gadw golwg wrth goginio ac i wneud yn siŵr bod sgarffiau a llewys ar hijaabs, shalwar kameez a saris yn cael eu cadw draw. Mae’n hawdd iddynt fynd ar dân.
- Peidiwch â llenwi mwy nag un rhan o dair o’ch sosban goginio ag olew
- Os oes mwg yn dod o’r olew, diffoddwch y gwres a gadewch iddo oeri
- Peidiwch â gadael eich sosbenni coginio heb gadw golwg arnynt os yw’r gwres ymlaen
- Os bydd tân yn cychwyn, peidiwch â cheisio ei ddiffodd eich hun. Ewch allan ac arhoswch allan, a galwch 999