Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Eiddo Gwag

Eiddo Gwag

Dengys gwaith ymchwil bod safleoedd sydd heb eu diogelu'n iawn yn gallu arwain at nifer o danau ac achosion o droseddu sydd yn draul ar adnoddau'r Heddlu a'r Gwasanaeth Tân ac Achub.

Gall y safleoedd hyn fod yn fangre i droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Maent yn ddolur llygad difrifol ac yn peri gofid i gymunedau cyfagos. Mae gan y rhan fwyaf o'r Awdurdodau Lleol drefniadau mewn lle i ddiogelu safleoedd gwag o dan y Ddeddf Darpariaethau Amrywiol.

Rydym yn cydnabod bod diogelu safleoedd gwag yn gostus ond, gan fod yn rhaid i'r asiantaeth ddelio gydag ôl-effeithiau tân mewn eiddo gwag beth bynnag, mae'r Tîm Lleihau Tanau Bwriadol yn dal i roi blaenoriaeth uchel i safleoedd gwag.

Rydym hefyd yn cydnabod bod mwyafrif y safleoedd gwag yn cael eu rheoli'n dda ac mae'n bwysig ein bod yn rhannu'r wybodaeth orau posibl â pherchnogion a rheolwyr fel nad ydi eu  safleoedd hwy yn dod yn rhan o'r ystadegau.

I leihau'r tebygolrwydd y bydd eich safle a'ch tir chi yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol/troseddu a thipio anghyfreithlon, rydym yn eich cynghori i:

  • osod dalenni metel ar ddrysau a ffenestri
  • cael gwared ar bethau gwerthfawr fel dodrefn, rhag denu lladron
  • cael gwared ar sbwriel fel na fydd pobl yn cael eu temtio i dipio'n anghyfreithlon yno a dod yn fan ymgynnull i bobl ifanc yr ardal
  • parhau i gynnal a chadw'r adeilad a'r ffens sy'n ei amgylchynu - os na fyddwch chi'n malio dim am yr adeilad, nid fydd pobl eraill yn malio dim ychwaith.
  • cael gwared ar bosteri sydd wedi ei gadel yno heb ganiatâd yn ogystal â graffiti
  • gosod larwm lladron a goleuadau allanol
  • mynd i'r safle'n rheolaidd a chael gwared ar lythyrau sothach
  • datgysylltu gyfleusterau'r safle
  • gofyn wrth gymdogion i gadw llygaid ar y safle a rhannu'ch manylion â'r awdurdodau i'ch cynorthwyo gyda'r dasg o reoli'r safle.
  • gweld os oes grantiau ar gael gan yr Awdurdod Lleol i adfer yr adeilad ystyried defnyddio paent gwrth-ddringo
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen