Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Mae #DimOnd1 peth bach yn ddigon i wneud cawlach o bethau

Mae llawer ohonom wedi addasu yn ystod y cyfnod clo naill ai'n gweithio gartref neu’n addysgu plant gartref, a gyda chynnydd mewn amldasgio mae’r risg o dân mewn cegin yn uwch - mae gadael i ddim ond un peth bach fynd â’ch sylw yn ddigon i wneud cawlach o bethau yn y gegin.

Mae'n rhaid i drigolion barhau i chwarae eu rhan i leihau’r galw ar ein gwasanaethau, wrth i ni lansio’r ymgyrch #DimOnd1 i godi ymwybyddiaeth am beryglon tanau yn y gegin.

Mae dros 40% o'r holl danau sydd yn digwydd yn y cartref yn cychwyn yn y gegin - sydd yn dangos pa mor hawdd ydi hi i bethau fynd o chwith wrth baratoi bwyd.  

Ond yn ystod y cyfnod clo diweddar, mae’r ffigwr hwn wedi cynyddu gan fod pobl wedi bod yn treulio mwy o amser nag arfer yn y gegin.

I helpu i atal tân yn eich cartref chi, rydym yn eich annog i GYMRYD PWYLL ac osgoi gadael yr ystafell wrth goginio. Os ydych chi’n gadael yr ystafell, diffoddwch y stôf a chadwch ardal y stôf yn glir.

Mae Paul Scott, Uwch Reolwr Diogelwch Tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn egluro:

“Gan fod pawb yn gaeth i’w cartrefi yn ystod y cyfnod clo, mae nifer ohonom wedi bod yn greadigol ac wedi pasio’r amser trwy goginio mwy, rhannu ryseitiau a phostio lluniau o’n campweithiau ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Mae hyn yn ffordd dda iawn o gadw mewn cysylltiad gyda theulu a ffrindiau - ond rydym ni wedi sylwi ar gynnydd mewn tanau cegin o ganlyniad.

“Yn anffodus, rydym ni’n gwybod yn iawn fod gadael i ddim ond un peth bach fynd â’ch sylw wrth goginio yn gallu arwain at drychineb  - mae’n swnio’n amlwg ond  mae diffyg canolbwyntio ymhlith un o brif achosion tanau yn y gegin, boed hynny oherwydd y plant neu o ganlyniad i ddefnyddio ffôn symudol neu dabled.

“Mae’n frawychus bod 40% o’r holl danau y cawsom ein galw atynt wedi cychwyn yn y gegin - ond yn fwy brawychus fyth fe allai nifer helaeth o’r rhain fod wedi cael eu hatal trwy gymryd camau syml iawn. 

“Mae hyn yn golygu lleihau’r tebygolrwydd o achosi anaf i chi’n hun neu’ch teulu, neu o orfod gwario ar brynu cegin newydd sbon.” 

Cegin ar dan

Mae dros 40% o'r holl danau sydd yn digwydd yn y cartref yn cychwyn yn y gegin

 

Mae'r rhan fwyaf o danau coginio yn cychwyn yn y gegin. Diffyg canolbwyntio ydi'r prif ffactor dynol, gyda syrthio i gysgu yn dod yn ail agos iawn.  Mae hyn yn golygu gadael bwyd yn coginio – sydd yn gallu achosi ceginau llawn mwg, difrod i offer neu waeth byth, difrod difrifol, anaf neu niwed.  

Roedd yr achosion eraill yn cynnwys gadael pethau'n rhy agos i'r hob neu bobty, potai budr neu sosbenni sglodion wedi gorboethi.

Rydym felly'n amlygu'r cyngor diogelwch allweddol isod fel rhan o'r ymgyrch #DimOnd1: 

  • Peidiwch byth â throi eich cefn ar fwyd sydd yn coginio
  • Cadwch eich popty'n lân a pheidiwch â gadael eitemau a all fynd ar dân gerllaw
  • Profwch eich larwm mwg yn rheolaidd. 
  • Os oes tân ewch allan, arhoswch allan a galwch 999.

 

Meddai Paul Scott, Uwch Reolwr Diogelwch Tân:

Y gymwynas fwyaf y gallwch chi fel aelodau’r cyhoedd ei gwneud i ni fel diffoddwyr tân ar yr adeg hon ydi cymryd pwyll arbennig, i leihau’r galw ar ein gwasanaethau.

“O brofiad, gwyddwn fod pobl mewn perygl cynyddol o dân pan fyddant yn treulio mwy o amser yn y cartref.

“Felly, rwyf yn erfyn ar bawb i gymryd pwyll arbennig i’n helpu ni i atal damweiniau rhag digwydd yn y lle cyntaf.

“Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae yn ystod argyfwng y coronafeirws.”

kitchen fire

Swnio'n gyfarwydd? Dysgwch fwy am sut i gadw'n ddiogel

Ydych chi'n cael cip sydyn ar y cyfryngau cymdeithasol wrth goginio? 

Ydych chi wedi rhoi cynnig ar goginio pryd er eich bod chi wedi cael ychydig bach yn ormod i'w yfed? 

Ydych chi wedi rhoi olew mewn padell  ffrio ac yna anghofio amdani?  

Ydych chi wedi anghofio diffodd y gril ar ôl ei ddefnyddio?

Ydych chi wedi rhoi lliain sychu llestri'n rhy agos i'r hob ac wedi dod o hyd i farciau llosg arno nes ymlaen? 

Mae'n hawdd iawn canolbwyntio ar bethau eraill yn y gegin yn lle coginio - gwyddwn fod 40% o danau yn y cartref yn cychwyn yn y gegin. 

Mae #DimOnd1 peth bach yn ddigon i wneud cawlach o bethau yn y gegin

Peidiwch â throi'ch cefn ar fwyd sydd yn coginio.

Mae yna ragor o wybodaeth ar gadw'n ddiogel wrth goginio yn fan hyn.

kitchen fire

Mae #DimOnd1 peth bach yn ddigon i wneud cawlach o bethau yn y gegin

Cymrwch ran yn eich cystadleuaeth - talebau Amazon gwerth £150 ar gael

Fel rhan o'r ymgyrch, cymrwch ran yn ein cystadleuaeth diogelwch coginio i ar Facebook, Twitter ac Instagram - mae talebau Amason gwerth £150 ar gael.

Gallwch gymryd rhan mewn ychydig funudau - dilynwch #DimOnd1 i gael gwybod mwy 

 

 

amazon cerdyn

Helpwch i ledaenu'r gair - hoffwch a rhannwch ein negeseuon #DimOnd1

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen