Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

PWRPAS YR ADRODDIAD

Rhoi crynodeb i’r Aelodau o’r cynnydd y mae pob un o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Cymru wedi’i wneud tuag at gyflawni’r amcanion sydd yn eu cynlluniau llesiant a gyhoeddwyd ym mis Ebrill/Mai 2018.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Mae’r pedwar Bwrdd yng Ngogledd Cymru wedi cyhoeddi eu hadroddiadau blynyddol cyntaf er mwyn dangos y cynnydd mewn perthynas â’r cynlluniau llesiant ar gyfer eu hardaloedd. Mae’r Byrddau’n parhau i gwrdd yn rheolaidd ac i weithio drwy is-grwpiau pwnc.

Er bod y cynlluniau llesiant wedi nodi 74 o flaenoriaethau ar gyfer Gogledd Cymru, mae’r pedwar Bwrdd wedi gostwng nifer y blaenoriaethau er mwyn canolbwyntio ar feysydd penodol o angen ar gyfer 2018/19.

Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae’r pedwar Bwrdd wedi cyhoeddi eu hadroddiadau blynyddol cyn Mehefin 2019 ac maent wedi anfon copïau at Weinidogion Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru a phwyllgor trosolwg a chraffu’r awdurdod lleol perthnasol.

ARGYMHELLION

Bod yr Aelodau’n nodi’r cynnydd a wnaed gan y pedwar Bwrdd yng Ngogledd Cymru tuag at gyflawni eu hamcanion llesiant, fel yr amlinellir yn eu hadroddiadau blynyddol.

CEFNDIR

Ym mis Ebrill 2016, fe wnaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 sefydlu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus statudol yn ardal pob awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru (yr Awdurdod) yn aelod statudol o bob Bwrdd yn ei ardal, ynghyd â’r awdurdod lleol yn ardal y bwrdd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyfoeth Naturiol Cymru. Dan y Ddeddf, rhaid gwahodd rhai sefydliadau eraill i gymryd rhan yng ngwaith y Bwrdd a gellir gwahodd rhai eraill.

Ar hyn o bryd, mae pedwar Bwrdd yng Ngogledd Cymru, sef Wrecsam, Sir y Fflint, Conwy a Sir Ddinbych, a Gwynedd ac Ynys Môn. Ers Mawrth 2016, y Prif Swyddog Tân yw’r sawl sydd wedi’i ddynodi’n gynrychiolydd yr Awdurdod ar y Byrddau.

Roedd y Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Fyrddau i: asesu cyflwr llesiant yn eu hardaloedd; cyhoeddi eu hasesiadau llesiant cyntaf yn 2017; ac, yn dilyn nifer o gamau ymgysylltu a chymeradwyo, roeddent yn cyhoeddi eu cynlluniau llesiant cyntaf erbyn 3 Mai 2018.

Roedd yr asesiadau’n ystyried cryfderau ac asedau ardaloedd lleol, y bobl a’r cymunedau sy’n byw yno, a’r heriau a’r cyfleoedd i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus nawr ac yn y dyfodol. Ceisiwyd adborth gan drigolion, busnesau ac ymwelwyr ledled Gogledd Cymru.

Drwy ddefnyddio asesiadau llesiant, fe wnaeth y Byrddau osod amcanion lleol wedi’u cynllunio i sicrhau eu bod yn cyfrannu i’r eithaf at gyrraedd y nodau llesiant cenedlaethol yn eu hardaloedd. Cyn eu cyhoeddi, roedd rhaid i’r gyfres gyntaf o gynlluniau llesiant lleol gael eu cymeradwyo gan yr aelodau statudol unigol a gan y Byrddau eu hunain.

SYLWADAU’R PANEL GWEITHREDOL/PWYLLGOR ARCHWILIO

Nid yw’r Panel Gweithredol na’r Pwyllgor Archwilio wedi ystyried yr adroddiad hwn o’r blaen.

GWYBODAETH

Cafodd fersiynau drafft terfynol o’r pedwar cynllun llesiant lleol eu cyflwyno i’r Aelodau ym mis Mawrth 2018, a chawsant gymeradwyaeth yr Awdurdod. Ni chafodd unrhyw newidiadau arwyddocaol eu gwneud i’r cynlluniau llesiant cyn eu cyhoeddi. Mae’r cynlluniau terfynol a gyhoeddwyd ar gael ar wefan pob Bwrdd.

Roedd dadansoddiad o gynlluniau llesiant pob Bwrdd yn datgelu cyfanswm o 74 o flaenoriaethau ar gyfer Gogledd Cymru. Cafodd y blaenoriaethau wedi dosbarthu dan 16 o benawdau allweddol, sef Cymuned; Tai; Addysg; Addysg Iechyd; Iechyd; Dinasyddion Cyfrifol; Llesiant; Yr Amgylchedd; Cyfrifoldeb Amgylcheddol; Prosiectau Amgylcheddol Cymunedol; Twristiaeth; Economi; Seilwaith; Sgiliau ar gyfer Gwaith; Presgripsiwn Cymdeithasol; ac Iechyd y Gweithlu.

Fe wnaeth pob Bwrdd ddatblygu camau i fynd i’r afael â’r materion cymhleth a nodwyd yn flaenoriaethau yn y cynlluniau. Sefydlwyd gweithgorau i gyflawni’r blaenoriaethau, a chrëwyd cynlluniau gwaith gydag amseroedd penodol arnynt, gyda’r cynnydd yn cael ei adrodd yn rheolaidd i bob Bwrdd.

Mae rhai o’r amcanion a ddatblygwyd gan y Byrddau yn cyd-fynd ag amcanion gwella a llesiant hirdymor yr Awdurdod ei hun, a phan mae’r rhain wedi cael eu dynodi, dilynir dull integredig i sicrhau eu bod yn cyfrannu i’r eithaf at gyfleoedd i weithio ar y cyd â phartneriaid a rhanddeiliaid.

Mae gwaith partneriaethol wrthi’n cael ei ddatblygu mewn meysydd megis newid yn yr hinsawdd, bioamrywiaeth, cydlyniad cymunedol a gwaith ataliol. Mae gwaith yn cael ei wneud i chwilio am ragor o gyfleoedd i weithio ar y cyd er mwyn osgoi dyblygu ymdrech rhwng sefydliadau’r sector cyhoeddus, ac i annog rhannu adnoddau.

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych

Ar ôl dadansoddi’r adborth o’r ymgynghoriad, fe wnaeth Bwrdd Conwy a Sir Ddinbych ostwng nifer y blaenoriaethau o chwech i dri. Gwnaeth hyn drwy edrych ar y synergeddau rhwng blaenoriaethau, yr effaith y gallai’r Bwrdd ei chael, y goblygiadau hirdymor a lle roedd gwaith eisoes yn cael ei wneud er mwyn osgoi dyblygu. Cafodd y blaenoriaethau isod eu dewis ar sail lle gallai’r Bwrdd ychwanegu’r gwerth mwyaf ar y cyd:

Pobl – Cefnogi llesiant meddyliol da

Cymunedol – Cefnogi rhoi grym i gymunedau

Lle – Cefnogi Gwytnwch Amgylcheddol

Mae crynodeb manwl o’r hyn mae’r Bwrdd wedi’i gyflawni ar gael yn ei adroddiad blynyddol.

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam

Yn dilyn ei ymgynghoriad cyhoeddus, fe wnaeth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam ddatblygu themâu a oedd yn bwysig i bobl sy’n byw yn sir Wrecsam, felly penderfynodd ganolbwyntio ar gwpl o’r rhain ar y tro, yn hytrach na cheisio gwneud popeth ar unwaith. Cafodd tri bwrdd rhaglen eu sefydlu ynglŷn â’r canlynol:

Mae plant a phobl ifanc yn cael cychwyn iach mewn bywyd

Mae pawb yn cael cyfle i ddysgu a datblygu drwy gydol eu hoes

Grŵp Strategol Ardal y Dwyrain i hybu a gweithredu Cymru Iachach ledled Gogledd-ddwyrain Cymru

Mae crynodeb manwl o’r hyn mae’r Bwrdd wedi’i gyflawni ar gael yn ei adroddiad blynyddol.

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint

Ar gyfer 2018/19, fe wnaeth y Bwrdd osod pum blaenoriaeth a nifer o flaenoriaethau yn ystod y flwyddyn, fel y nodir yn y Cynllun Llesiant ar gyfer Sir y Fflint:

Diogelwch Cymunedol

Economi a Sgiliau

Yr Amgylchedd

Byw’n Iach ac Annibynnol

Cymunedau Cydnerth

Mae crynodeb manwl o’r hyn mae’r Bwrdd wedi’i gyflawni ar gael yn ei adroddiad blynyddol.

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn

Roedd y cynllun llesiant yn cadarnhau’r ddau amcan a’r chwe maes blaenoriaeth lle roedd y Bwrdd yn cytuno i weithio gyda’i gilydd i sicrhau’r canlyniadau gorau i drigolion Gwynedd ac Ynys Môn:

Cymunedau sy’n ffynnu ac sy’n llewyrchus yn y tymor hir

Y Gymraeg

Cartrefi i bobl leol

Effaith tlodi ar lesiant ein cymunedau

Effaith yr newid yn yr hinsawdd ar lesiant cymunedau

Trigolion iach ac annibynnol sydd â bywyd o ansawdd da

Iechyd a gofal oedolion

Lles a chyrhaeddiad plant a phobl ifanc

Mae crynodeb manwl o’r hyn mae’r Bwrdd wedi’i gyflawni ar gael yn ei adroddiad blynyddol.

Mae copi o bob un o’r adroddiadau cynnydd blynyddol wedi cael ei anfon at y pwyllgor trosolwg a chraffu yn yr awdurdod lleol perthnasol, yn ogystal ag at Weinidogion Cymru, Comisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 GOBLYGIADAU

 

Amcanion Llesiant

Mae rhai o’r amcanion a ddatblygwyd gan y Byrddau yn cyd-fynd ag amcanion gwella a llesiant hirdymor yr Awdurdod mewn meysydd fel y newid yn yr hinsawdd, bioamrywiaeth, cydlyniant cymunedol a gwaith ataliol.

Cyllideb

Nid oes goblygiadau’n hysbys ar hyn o bryd, ond mae’n bosibl y gofynnir am gyfraniadau ariannol ar gyfer prosiectau cydweithredol drwy’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.


Cyfreithiol

Dim goblygiadau hysbys.

Staffio

Dim effaith hysbys ar lefelau staffio, ond mae’n bosibl y bydd y gwaith o gynllunio a chyflawni’r amcanion llesiant yn golygu defnyddio adnoddau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg

Mae amcanion y Byrddau Gwasanaethau Lleol yn ceisio gwella llesiant pobl sy’n byw yng Ngogledd Cymru. Mae nifer o amcanion yn gyfrannu at y nod o ‘Gymru fwy cyfartal’.

Risgiau

Fel Aelod statudol o’r pedwar Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, sy’n cyflawni pedwar cynllun llesiant sy’n cynnwys 74 o flaenoriaethau, gallai’r Gwasanaeth Tân ac Achub gael trafferth cynnal lefel briodol o gyfranogiad gweithredol.

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen