Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Pwy ydym ni

Pwy ydym ni

"Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn helpu i ddiogelu poblogaeth o oddeutu 678,461 o bobl dros ardal o 2,400 milltir sgwâr, yn ogystal â channoedd o filoedd o dwristiaid ac ymwelwyr sy'n dod i'r ardal bob blwyddyn.

Rydym yn gyfrifol am ddiogelu tua 317,051 o eiddo domestig a 24,484 o eiddo annomestig yng Ngogledd Cymru.

Mae'r Gwasanaeth yn cyflogi oddeutu 900 o staff mewn rolau gweithredol a chefnogi.

Bob blwyddyn rydym yn mynychu tua 3,200 o danau, 500 o wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd a 500 o digwyddiadau brys eraill.

Rydym hefyd yn mynychu tua 3,600 o alwadau diangen o wahanol fathau bob blwyddyn.

Rydym yn gwneud llawer o waith gydag ysgolion, busnesau a chymunedau lleol er mwyn hyrwyddo diogelwch tân ac atal tanau.

Mae gan y Gwasanaeth fflyd nifer o gerbydau sy'n gynnwys 54 o beiriannau tân, uned rheoli un digwyddiad a 31 o gerbydau 'arbennig', megis cerbydau pob tir a chludwyr ewyn.

Mae gennym hefyd dri platfform ysgolion awyr,  offer trydanol cludadwy, offer codi a winsio ac offer arbenigol arall er mwyn ein galluogi i ymateb i nifer o wahanol fathau o ddigwyddiadau.

Rhain yw ein Gwerthoedd Craidd

 

 

Pencadlys y Gwasanaeth Tân ac Achub,

Ffordd Salesbury, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy Sir Ddinbych, LL17 0JJ

Ffôn: 01745 535 250

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen