Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y Safonau Iaith Gymraeg

Y Safonau Iaith Gymraeg

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn disodli Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac fel rhan o'r ddeddfwriaeth newydd, yng Nghymru mae gan yr iaith Gymraeg statws cyfreithiol cyfartal â’r Saesneg ac felly ni all yr iaith Gymraeg cael ei thrin yn llai ffafriol. Nid oes rhaid i gyrff cyhoeddus mwyach ddatblygu a gweithredu cynlluniau iaith Gymraeg, ond yn hytrach rhaid iddynt gydymffurfio â set o Safonau’r Gymraeg cenedlaethol.

Cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg Hysbysiadau Cydymffurfio i'r gwasanaethau tân ar 30 Medi 2016. Mae'r ddogfen hon yn rhestru pa rai o'r Safonau (fel y rhestrir yn llawn yn Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 5) 2016) y mae’n rhaid i sefydliad gydymffurfio â hwy, ynghyd ag unrhyw eithriadau a’r dyddiadau gweithredu.

Mae dyletswydd statudol ar Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i gydymffurfio â safonau a restrir ynghyd â’r dyddiadau cydymffurfio yn yr “Hysbysiad cydymffurfio - Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011” a gyflwynwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg ar 30 Medi 2016. Disgwylir i’r Gwasanaeth gydymffurfio â’r rhan fwyaf o’r safonau erbyn 30 Mawrth 2017.

Cliciwch yma i ddarllen copi o'r Hysbysiad Cydymffurfio.

Mae Cynllun Gweithredu Gwasnaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dangos sut yr ydym yn bwriadau cydymffurfio gyda'r safonau newydd

Cliciwch yma i ddarllen copi o'n Cynllun Gweithredu.

Adroddiad Monitro Blynyddol

Mae Safonau’r Gymraeg yn nodi bod yn rhaid i’r Gwasanaeth greu adroddiad blynyddol, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, sy’n delio â’r ffordd y mae wedi cydymffurfio â’r safonau darparu gwasanaethau, safonau creu polisi a’r safonau gweithredol a gyhoeddir yn ein Hysbysiad Cydymffurfio.

Yn ystod y cyfnod pontio rhwng y Cynllun Iaith Gymraeg a'r Safonau Iaith Gymraeg, mae ein Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer 2016-17 yn dangos sut yr ydym yn gweithredu ein Cynllun Iaith.

Cliciwch yma i ddarllen copi o'n Adroddiad Monitro Blynyddol 2016-17.

 

Mae ein adroddiad ar ein perfformiad yn erbyn Safonau'r Iaith Gymraeg bellach wedi'i gofnodi o fewn ein Asesiad Perfformiad Blynyddol sydd i'w weld yma:

Asesiad Perfformiad Blynyddol 2022-2023

Asesiad Perfformiad Blynyddol 2021-2022

Asesiad Perfformiad Blynyddol 2020-2021

Asesiad Perfformiad Blynyddol 2019-2020 

Asesiad Perfformiad Blynyddol 2018-2019

Asesiad Perfformiad Blynyddol 2017-2018

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen