Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Yr Iaith Gymraeg

Yr Iaith Gymraeg

Ein Hymrwymiad i'r Iaith Gymraeg

Yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, rydym yn credu y dylid, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, trin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal.

Rydym yn gwasanaethu amrywiaeth gyfoethog o gymunedau, a threftadaeth naturiol a diwylliannol yn gefn iddynt.

Rydym yn ceisio darparu gwasanaethau yn deg i bob ardal yng Ngogledd Cymru. Rydym yn cydnabod ein dyletswydd at ein staff hefyd, mae'r rhan fwyaf ohonynt yn byw yng Ngogledd Cymru eu hunain ac yn adlewyrchu cyfansoddiad ieithyddol a diwylliannol eu cymunedau eu hunain.

Rydym yn ymfalchïo ein bod wedi cymryd yr iaith o ddifri ers blynyddoedd. Trwy gydnabod ein dyletswyddau moesol a chyfreithiol i ateb disgwyliadau'r cyhoedd ac i amddiffyn treftadaeth ddiwylliannol yr ardal, rydym hefyd yn cydnabod bod manteision cadarnhaol i'w cael i'r gwasanaeth trwy gynnal ein busnes cyhoeddus yn y ddwy iaith. Mae arbed bywydau a lleihau risg wrth galon cenhadaeth yr Awdurdod -mae'r iaith yn hanfodol i'w lwyddiant.

Rydym ni felly'n annog y cyhoedd i siarad yn eu hiaith ddewisol wrth gysylltu gyda ni - boed hynny oherwydd bod ganddynt ymholiad cyffredinol, yn ystod archwiliad diogel ac iach neu mewn argyfwng.  

Dyma rai o'n haelodau staff yn cymryd rhan mewn dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Wrecsam.

Dyma ddau aelod o'r staff yn sôn am bwysigrwydd y Gymraeg yn y gweithle fel rhan o gyfres o fideos a gynhyrchwyd ar y cyd â Choleg Cambria:

Ar Frys - Ystafell Reoli

Ar Frys - Rheolwr Tân

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen