Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Caergybi

Gorsaf Dân Caergybi
Ffordd Kingsland
HolyheadCaergybi
LL65 2HY
Ffôn: 01745 535 250

 

Manylion y criw:

Mae Caergybi yn orsaf dân amser cyflawn sydd gan griwiau dydd gyda dwy wylfa amser cyflawn (Glas a Choch) ac un wylfa sydd yn perthyn i'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw.

Ardal ddaearyddol:

Gogledd Orllewin Ynys Môn.

Lleoliadau o risg:

Anglesey Aluminium Co.
Alpoco Power Co.
Gorsaf Bŵer Wylfa
Porthladd Caergybi                                                                                  
Ffatri deganau Hedstrom                                                                              
Ysbyty Stanley, Penrhos

Hanes yr orsaf:

Mae gorsaf dân Caergybi yn ymateb i 500 o alwadau bob blwyddyn.

Yn wreiddiol, roedd yr orsaf ar Cleveland Avenue cyn cael ei symud i'w lleoliad presennol ym 1965. Cafodd y safle ei ddefnyddio fel iard goed wedi hynny.  Ar ôl rhai blynyddodd o fod yn wag, cafodd yr adeilad ei ddymchwel a chodwyd fflatiau newydd ar y safle - "Yr Hen Orsaf".

Yn ogystal â chefnogi Canolfan Gymunedol Jesse Hughes mae criw Caergybi wedi danfon cymorth i Rwmania ac wedi ailwampio cartref plant amddifad yn Budapest.

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen