Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Benllech

Benllech
Gorsaf Dân Benllech

Cyfeiriad:
Ffordd Llangefni, Benllech
LL74 8SG

Ffôn: 01745 535250

Manylion Criw:

Mae Gorsaf Dân Benllech yn rhan o'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw.

Mae Diffoddwyr Tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn unigolion medrus iawn sydd gan swyddi cyffredin o ddydd i ddydd, ond sydd hefyd ar gael i ymateb i alwadau gyda'r nos, yn ystod  y dydd ac/neu ar benwythnosau.

 

Yr Ardal Ddaearyddol a Wasanaethir:

O Ddulas, Penrhoslligwy, Moelfre, Marianglas a Benllech i Rhoscefnhir, dros mynnydd Bodafon i Maenaddwyn, yn ôl i Frynteg, Llanbedrgoch Ac ymlaen i Pentraeth.

 

Safleoedd o Risg:

Gwylfa Mor Moelfre

Gorsaf Cwch Achub

Plas Gwyn Pentraeth( stad ddiwydiannol fechan ym Mhentraeth)

Safleoedd Carafán

Cartrefi Preswyl

Safleoedd o ddiddordeb arbennig gwyddonol ac arbenigol

Gwestai

 


Hanes yr Orsaf:

Agorwyd yr orsaf wreiddiol ym 1955,a'r orsaf  bresennol ym 1971. Yn flaenorol roedd yr orsaf  wedi ei lleoli mewn iard adeiladwyr ar Ystâd Garreg Lwyd  ac mewn penty yng Ngarej Gwynfryn.  

Yn wreiddiol, roedd gorsaf Benllech yn perthyn i Gyngor Sir Môn, ond daeth yn rhan o Wasanaeth Tân Gogledd Cymru gyda'r uno ym 1996.

 

Gwaith yn y Gymuned:

Mae'r orsaf yn cefnogi'r carnifal lleol, y clwb rygbi ac yn bresennol yn ystod gwyliau blynyddol Y Ford Gron, Bangor a'r Cyffiniau, yn ogystal â digwyddiadau eraill a gynhelir i godi arian yn lleol.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen