Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Recriwtio swyddi Diffoddwyr Tân Ar-Alwad

Recriwtio swyddi Diffoddwyr Tân Ar-Alwad

Rydym bob amser yn awyddus i glywed gan bobl sydd â diddordeb mewn bod yn Ddiffoddwr Tân Ar-Alwad. 

Os hoffech gofrestru’ch diddordeb yn ffurfiol, ewch i'r porth cofrestru ar-lein isod.

Porth cofrestru ar-lein  

Cewch ddewis cwblhau’r Ffurflen Gofrestru Ar-lein un ai yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd angen cyfeiriad e-bost gweithredol arnoch i gwblhau’r broses gofrestru. 

Yn ystod y broses Cofrestru Ar-lein byddwn yn gofyn i chi roi’ch manylion personol a Rhagolwg Gyrfa Realistig er mwyn i chi gael asesu pa mor addas ydych chi ar gyfer y rôl – bydd y canlyniadau’n breifat ac ar gyfer eich ystyriaeth chi yn unig. Os byddwch yn dewis parhau â’ch cais, byddwn yn gofyn i chi ateb cwestiynau syml i wneud yn siŵr eich bod yn gymwys.    

Bydd yr asesiad cymhwyster yn gofyn y cwestiynau canlynol:-

  1. Ydych chi yn 18 oed neu drosodd
  2. Os oes gennych hawl i weithio yn y DU
  3. Oes gennych unrhyw euogfarnau a allai eich rhwystro rhag gweithio fel Diffoddwr Tân (nid oes yn rhaid i chi ddatgan unrhyw euogfarnau sydd wedi ‘dod i ben’, ond mae’n rhaid i chi ddatgan pob euogfarn sydd heb eu disbyddu; bydd peidio â gwneud hynny yn arwain at eich cais yn cael ei wrthod yn awtomatig. Byddwn yn glynu wrth Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr a Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006)
  4. Pa un ai a ydych yn gallu cyrraedd yr orsaf dân mewn amser ymateb boddhaol
  5. Pa un ai a ydy’ch oriau argaeledd yn bodloni gofynion yr orsaf dân yr ydych yn ymgeisio amdani
  6. Pa un ai a oes swyddi gwag yn yr orsaf dân yr ydych yn ymgeisio amdani

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r asesiad cymhwyster, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau’r camau nesaf fel rhan o’r broses.

 

Gwylio'r fideo recriwtio RDS

Gwyliwch fideo 'Erioed wedi meddwl sut beth ydi bod yn Ddiffoddwr Tân  Ar Alwad?' 

Gweld copi o'r Llawlyfr Gwybodaeth Recriwtio i Ddiffoddwyr Tân RDS

Gweld copi o'r Llawlyfr Ymarfer ar gyfer y Profion Cenedlaethol i Ddiffoddwyr Tân

Gweld copi o'r Llawlyfr Ymarfer ar gyfer yr Holiadur Cenedlaethol i Ddiffoddwyr Tân  

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen