Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ffitrwydd

Ffitrwydd Corfforol

Gall diffodd tân fod yn weithgarwch corfforol trwm a pheryglus, ac mae yna botensial y byddwch yn dod i gysylltiad â llwythi thermol ffisiolegol ac amgylcheddol uchel. Er mwyn sicrhau perfformiad gweithredol effeithiol a diogel, mae lefel briodol o ffitrwydd corfforol yn hanfodol.

Bydd lefel eich ffitrwydd corfforol yn cael ei bennu trwy fesur eich perfformiad yn ystod nifer o dasgau diffodd tân corfforol ac ymarferol. Yn ogystal â hyn, bydd gofyn i chi berfformio prawf ffitrwydd ‘aerobig’ i ragfynegi eich gallu aerobig (fesul mlsO2/kg/min).

Mae hyn yn caniatáu i ni asesu eich gallu i wneud ymarfer corff am gyfnodau hirach, sy'n bwysig ar gyfer diffodd tân yn ddiogel. Y gofyniad lleiaf ar gyfer ymgeiswyr yn ystod y broses recriwtio yw 42.3 mls/O2/kg/min (sy'n cyfateb i lefel 8 gwennol 8 ar brawf blîp).

Os byddwch yn mynd ymlaen i gael prawf meddygol, efallai y bydd gofyn i chi ddangos y lefel hon o ffitrwydd eto mewn prawf cerdded melin draed er mwyn sicrhau eich bod wedi cynnal y lefel briodol o ffitrwydd. Mae Rhaglen FireFit wedi cael ei chynllunio er mwyn eich cynorthwyo i gyrraedd y lefel sydd ei hangen ar gyfer proses ddethol diffoddwyr tân cenedlaethol.

Prawf Bleep

Efallai y bydd gofyn i chi ymgymryd â'r Prawf Ffitrwydd Aerobig Bleep i lefel isafswm o 8.8

Dyma gydrannau’r Asesiad Corfforol ac Ymarferol:

Prawf Man Caeedig

Bydd angen i chi gyfuno hyder, ystwythder a hyblygrwydd wrth fynd trwy lwybr cropian er mwyn pasio'r prawf yn llwyddiannus. Dim ond un ffordd sydd ar gael o fynd trwy'r llwybr cropian, sef ymlaen, i'r dde, i'r chwith, i fyny neu i lawr, ac nid oes unrhyw ddrysau i'w hagor. Byddwch yn dechrau'r prawf trwy wisgo mwgwd wyneb, sy'n caniatáu i chi weld yn glir. Fodd bynnag, wedi i chi gwblhau'r prawf, bydd eich mwgwd yn cael ei dywyllu, a bydd gofyn i chi ddychwelyd yr un ffordd. Dylech allu cwblhau'r profion hyn heb beryglu eich diogelwch na'ch lles.

Prawf Gosod Cyfarpar

Mae'r prawf hwn wedi'i gynllunio i asesu deheurwydd dwylo. Bydd angen i chi osod ac yna ddadosod darn o gyfarpar (erfyn hydrolig sy'n cael ei ddefnyddio gan y Gwasanaeth Tân ac Achub). Cyn i chi ddechrau'r prawf, bydd Hyfforddwr yn dangos i chi sut i osod y cyfarpar yn gywir. Bydd gennych hefyd ddiagram sy'n dangos sut i osod y cyfarpar yn gywir.

Dringo Ysgol

Dangosir i chi sut i ddringo'r ysgol a sut i gyflawni 'clo coes'. Cewch gyfle wedyn i ymarfer y clo cloes. Byddwch yn dringo'r ysgol i'r uchder penodedig. Ar y pwynt hwnnw, byddwch yn defnyddio'r clo coes i gloi eich hun i'r ysgol. Yna byddwch yn tynnu eich dwylo oddi ar yr ysgol ac yn plygu'n ôl, gan edrych dros eich ysgwydd i enwi gwrthrych a fydd yn cael ei ddal gan yr hyfforddwr ar lefel y llawr. Pan fyddwch wedi enwi'r gwrthrych, cewch gyfarwyddiadau i roi eich dwylo yn ôl ar yr ysgol a rhyddhau'r clo coes. Yna, byddwch yn cael cyfarwyddyd i ddod i lawr yr ysgol. Bydd angen i chi ddangos hyder a defnyddio'r dechneg gywir i ddringo'r ysgol.

Cario Offer

Bydd gofyn i chi gludo cyfarpar diffodd tân safonol ar hyd cwrs 25 metr sydd wedi'i osod, a hynny am bellter o 550 metr i gyd. Bydd angen i chi gyfuno dygnwch aerobig, cryfder yn rhan uchaf a rhan isaf y corff, a dygnwch cyhyrol.

Prawf Symud Unigolyn wedi'i Anafu

Bydd gofyn i chi lusgo model/dymi 55kg, sy'n cynrychioli rhywun wedi'i anafu, am bellter o 30 metr.

Prawf Efelychu Codi Ysgol

Bydd angen i chi gyfuno cryfder rhan uchaf a rhan isaf y corff a chydsymudiad er mwyn codi ysgol uwchben eich cefn i'r uchder gofynnol, ac yna'i gostwng yn ddiogel ac o dan reolaeth. Mae'r ysgol yn pwyso tua 26-30kg.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mwy o wybodaeth ar brofion ffitrwydd

Sylwch na fydd yn ofynnol i chi gael prawf estyniad yr Ysgol.

Os hoffech ragor o wybodaeth, ewch i wefan Grŵp Llywio FireFit lle mae rhagor o wybodaeth ar y profion ymarferol a'r lefel angenrheidiol o ffitrwydd.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen