Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diffoddwyr Tân Prentis

Enw: Elliot

Rôl: Diffoddwr Tân Prentis

Ychydig bach am fy rôl…

Rydw i’n Ddiffoddwr Tân Prentis ar hyn o bryd. Rydw i’n rhan o gynllun sy’n golygu fy mod yn gweithio tuag at gwblhau NVQ a BTEC dros gyfnod o dair blynedd.

I gwblhau’r cynllun rydw i’n ennill profiad drwy weithio mewn gwahanol adrannau ledled y Gwasanaeth. Mae hyn yn fy ngalluogi i weld sut mae pob adran yn gweithio a’r effaith bositif y maent yn ei gael ar y Gwasanaeth.

 

Beth ydi’ch gweithgareddau ar ddiwrnod arferol?

Mae pob diwrnod yn wahanol. Mae hyn oherwydd fy mod yn symud i wahanol adrannau. Ar hyn o bryd rydw i’n gweithio yn yr Adran Hyfforddi ac roeddwn i’n gweithio yn yr adran ffitrwydd cyn hynny. Mae fy niwrnod arferol yn cynnwys cefnogi’r modiwlau hyfforddi RDS drwy arddangos y sgiliau a’r technegau gweithredol. Rydw i’n mynd i’r orsaf unwaith yr wythnos i barhau gyda fy natblygiad. Rydw i’n edrych ymlaen at yr heriau newydd yn fy lleoliad gwaith nesaf yn Swyddfeydd Sirol Wrecsam.

 

Beth ydych chi’n ei fwynhau am eich gwaith?

Yr hyn yr ydw i’n ei fwynhau fwyaf am fy ngwaith ydi bod pob diwrnod yn wahanol ac rydw i bob amser yn dysgu pethau newydd ac yn datblygu fy sgiliau a’m profiad.

 

Pam wnaethoch chi ddewis hyn fel gyrfa?

Roedd bod yn Ddiffoddwr Tân yn freuddwyd i mi erioed. Roeddwn i eisiau gyrfa lle byddai pob diwrnod yn wahanol, heriol ac yn rhoi cyfle i mi ddatblygu fy hun ymhellach. Felly, mae hwn yn gyfle perffaith i mi.

 

Pa gymwysterau neu brofiad sydd ei angen i wneud y gwaith?

Er mwyn cael gyrfa fel diffoddwr tân mae’n rhaid cael gwybodaeth dda o’r pynciau craidd gan gynnwys Saesneg, Mathemateg a Chymraeg. Mae hyn oherwydd bod y brentisiaeth yn golygu llawer iawn o waith theori ac felly mae cwblhau gwaith i safon uchel o fantais. Hefyd gan fod y rôl yn golygu gweithio gyda’r gymuned mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol a dangos parch hefyd yn hanfodol bwysig.

 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sydd yn awyddus i ddilyn hyn fel gyrfa?

Fy nghyngor i unrhyw un sydd eisiau gyrfa fel hyn ydi byddwch yn rhagweithiol a gweithgar. Ceisiwch gael cymaint o brofiad o waith cymunedol â phosibl. Yn olaf, rydw i hefyd yn argymell cael profiad o’r gwasanaeth trwy gymryd rhan mewn cyrsiau megis y Cadetiaid Tân yn eich cymuned leol.

 

Enw: Ethan

Rôl: Diffoddwr Tân Prentis

Ychydig bach am fy rôl…

Rydw i’n Ddiffoddwr Tân Prentis sef diffoddwr tân dan hyfforddiant sydd yn gweithio tuag at fod yn ddiffoddwr tân cymwys.  

Beth ydi’ch gweithgareddau ar ddiwrnod arferol?

Fel rhan o’r brentisiaeth rydym yn gweithio mewn gwanhaol adrannau i gael gwybod am y rolau a’r gwaith amrywiol sydd yn cael ei gyflawni ar hyd a lled y Gwasanaeth Tân ac Achub – Nid oes y fath beth â diwrnod arferol. Dyna beth ydw i’n ei fwynhau – dydych chi byth yn gwybod beth fydd yn digwydd nesaf.

Beth ydych chi’n ei fwynhau am eich gwaith?

Rydw i’n mwynhau bod pob diwrnod yn wahanol – mae rhywbeth gwahanol bob amser yn digwydd.

Pam wnaethoch chi ddewis hyn fel gyrfa?

Mae’n rhywbeth yr ydw i wedi bod eisiau ei wneud ers ro’n i yn yr ysgol. Fe welais i’r ffurflen gais ar-lein a meddwl ei fod yn gyfle rhy dda i’w golli. Hefyd mae’n ffordd wych o ddod yn rhan o’r gwasanaeth tân ac achub.

Pa gymwysterau neu brofiad sydd ei angen i wneud y gwaith?

Mae rhai yn hanfodol megis gwaith tîm a chyfathrebu – hefyd rhywfaint o fathemateg a gwyddoniaeth. Byddwch yn ennill cymwysterau yn y gwaith ac yn ennill profiad wrth i chi ddatblygu fel diffoddwr tân.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sydd yn awyddus i ddilyn hyn fel gyrfa?

Mae’r brentisiaeth yn gyfle gwych sydd yn caniatáu i chi ddatblygu sgiliau newydd a bod yn rhan o’r gwasanaeth tân ac achub. Mae’n dysgu sgiliau am oes i chi.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen