Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rheolwr Gwylfa-Hyfforddwr Gweithredol

Enw: Ruth

Rôl: Rheolwr Gwylfa - Hyfforddwr Gweithredol

Ruth Bateman

Ychydig bach am fy rôl…

Yn fy rôl fel Hyfforddwr Gweithredol rydw i’n gweithio gyda thîm o 10 o hyfforddwyr gweithredol i hwyluso a darparu hyfforddiant i’r holl bersonél gweithredol yn y gwasanaeth. Mae’r hyfforddiant yn ymdrin â sawl maes gan gynnwys y modiwlau diffodd tân, offer anadlu, asesiadau poeth ac oer, cyrsiau dŵr, gwrthdrawiadau traffig ar y ffordd, meddygol, meistroli digwyddiadau, diogelwch rhaffau ac asesiadau datblygu i fod yn gymwys ar gyfer recriwtiaid newydd.

Mae’r cynllun prentisiaethau diffodd tân hefyd yn cael ei gydlynu gan yr adran hyfforddi.

Mae’r cyrsiau hyn yn cael eu darparu mewn lleoliadau ledled ardal y gwasanaeth.

Beth ydi’ch gweithgareddau ar ddiwrnod arferol?

Mae diwrnod arferol yn dibynnu ar y cwrs sy’n cael ei ddarparu’r diwrnod hwnnw! Mae pob cwrs yn wahanol ac felly mae pob diwrnod yn wahanol hefyd.

Beth ydych chi’n ei fwynhau am eich gwaith?

Rydw i’n mwynhau popeth am fy ngwaith! Rydw i’n mwynhau cwrdd gyda phobl newydd ac ymgysylltu gyda phobl o bob math o wahanol gefndiroedd. Rydw i’n mwynhau’r ochr weithredol; gweithio ar yr orsaf ac ymateb i ddigwyddiadau ond rydw i hefyd yn mwynhau gweithio yn yr adran hyfforddi a gweld y myfyrwyr yn cwblhau’r cwrs ac ennill sgiliau a gwybodaeth newydd.

Pam wnaethoch chi ddewis hyn fel gyrfa?

Nes i ymuno gyda’r gwasanaeth tân ac achub gan fy mod eisiau gyrfa heriol a gwahanol, gyrfa a fyddai’n rhoi boddhad, gyrfa gorfforol a gyrfa lle gallwn wneud cyfraniad i’r gymuned. Roeddwn i eisiau swydd y byddwn yn ymfalchïo ynddi ac rydw i wedi cyflawni hynny. Rydw i’n mwynhau gweithio fel aelod o dîm agos mewn amgylchedd dan bwysau megis yn ystod digwyddiadau lle mae eich gwaith yn gwneud gwahaniaeth ac yn gallu achub bywydau.

Pa gymwysterau neu brofiad sydd ei angen i wneud y gwaith?

Mae angen sgiliau rhifyddeg sylfaenol arnoch ynghyd â sgiliau llythrennedd i gwblhau’r profion dethol a bydd yn rhaid i chi feddu ar y gallu corfforol i gwblhau’r tasgau gofynnol yn ystod y diwrnod dethol. Mae angen y rhinweddau a’r priodoleddau cywir arnoch hefyd i ymuno gyda’r gwasanaeth tân, gan gynnwys datrys problemau, bod yn agored i newid, y gallu i weithio’n effeithiol gydag eraill, hyder a gwytnwch, cyfathrebu’n effeithiol, parchu amrywiaeth a gonestrwydd, ymrwymiad i ragoriaeth ac ymwybyddiaeth sefyllfaol da. Mae profiad bywyd a phrofiad o weithio gyda phobl hefyd yn fanteisiol ond os oes gennych chi’r gallu corfforol a’r brwdfrydedd yna does dim byd i’ch rhwystro.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sydd yn awyddus i ddilyn hyn fel gyrfa?

Os ydych yn frwd dros wneud gwahaniaeth a helpu pobl yn y gymuned yna ewch amdani! Anghofiwch am y rhagdybiaethau hen ffasiwn mai dim ond dynion sy’n cael ymuno â’ gwasanaeth tân ac achub ac mai dim ond diffodd tanau ydym ni’n ei wneud.

Mae a wnelo gwasanaeth tân ac achub modern â llawer iawn mwy na hynny ac mae cymaint o rolau amrywiol ar gael.

Siaradwch gyda rhywun yn y gwasanaeth tan ac achub i weld beth mae’r gwaith yn ei olygu. Mae’n waith caled ond yn rhoi llawer iawn o foddhad.

 

 

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen