Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Prentisiaethau Diffoddwyr Tân ac Arweinwyr y Dyfodol

CADWCH LYGAID YN YR ADRAN SWYDDI GWAG DIWEDDARAF AR GYFER EIN CYFLEOEDD PRENTISIAETHAU.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig cyfle i bobl 18 oed a hŷn sydd yn barod i ymrwymo i ddysgu sgiliau newydd i gwblhau rhaglenni prentisiaeth tair blynedd.

Mae’r Prentisiaethau Diffoddwyr Tân ac Arweinwyr y Dyfodol yn dilyn rhaglen hyfforddi ‘Sgiliau Er Cyfiawnder’ sydd yn darparu dealltwriaeth a llwybr clir ar gyfer rôl y diffoddwr tân a rheolwr modern. 

Bydd y Diffoddwyr Tân Prentis yn cwblhau rhaglen hyfforddi i fod yn ddiffoddwyr tân ‘cymwys’ ac, yr un mor bwysig, yn cael blas ar y swyddogaethau eang sydd yn cyfrannu  tuag at ddarparu gwasanaeth tân ac achub modern.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymateb i bob math o ddigwyddiadau megis tanau, gwrthdrawiadau traffig, llifogydd, tanau gwyllt a gollyngiadau cemegol ond mae ein prentisiaid hefyd yn dysgu am y modd y mae ein timau a phartneriaid yn codi ymwybyddiaeth ac atal digwyddiadau trwy ddarparu cyngor diogelwch cymunedol a rhaglenni addysgol.

Mae’r fframwaith ar gyfer Prentisiaethau Arweinwyr y Dyfodol yn ymgorffori’r modiwlau hyfforddi i ddiffoddwyr tân ond gyda phwyslais ychwanegol ar ddatblygu i baratoi ar gyfer rôl rheolwr goruchwyliol ac uwch.

Cymwyseddau a sgiliau i’w harddangos:

  • Arweinwyr y Dyfodol – o leiaf 2 lefel A a TGAU mewn Saesneg/Cymraeg a Mathemateg 
  • Diffoddwyr Tân Prentis – TGAU A-C mewn Saesneg/Cymraeg a Mathemateg.
  • Llwyddo i basio’r Profion Gallu Cenedlaethol a’r Profion Ffitrwydd – fe fydd y prentisiaid yn cael eu rhoi ar brawf ac felly mae’n rhaid iddynt fod yn ddigon ffit i gwblhau’r cwrs hyfforddi gweithredol i ddysgu sgiliau diffodd tanau, gan gynnwys gwisgo offer anadlu, delio gyda defnyddiau peryglus a mynd at wrthdrawiadau traffig ar y ffordd, gweithio o uchder mewn mannau cyfyng, gweithio y tu allan ymhob tywydd ac amodau amgylcheddol.
  • Pasio archwiliad meddygol mynediad y Gwasanaeth.  
  • Dangos/Ennill sgiliau Cymraeg Lefel 2.

Cwestiynau Cyffredin

Amserlen Diffoddwyr Tan a Phrentisiaid y Dyfodol

Ffitrwydd

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen