Y Newyddion Diweddaraf

Amlygu pwysigrwydd larymau mwg yn dilyn tân mewn cegin yn Y Bala

Dyddiad: 30/7/2010 15:31

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn tynnu sylw at allu larymau mwg i achub bywydau ac yn rhybuddio yn erbyn gadael bwyd yn coginio wedi i ddiffoddwyr tân gael eu galw i dân mewn cegin yn Y Bala fore ddoe.

Galwyd criwiau o'r Bala a Chorwen i'r tŷ teras yng Nghysgod y Coed am 08.23 o'r gloch fore Dydd Iau 29 Gorffennaf.

Ymddengys fod y tân wedi cynnau wedi i'r fenyw a oedd yn preswylio yn y tŷ adael bwyd yn coginio ar y gridyll. Pan gyrhaeddant, defnyddiodd ddiffoddwyr tân bedair set o offer anadlu a dwy bibell ddŵr i frwydro yn erbyn y tân ac awyrellu'r eiddo a oedd yn llawn mwg.

Dywedodd Mark Roberts Rheolwr Criw o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae'r digwyddiad hwn yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg os digwydd tân gan fod y larymau wedi rhybuddio'r fenyw yn gynnar iawn a'i galluogi i ddianc o'r eiddo yn ddiogel. Bu iddi ymddwyn yn y modd cywir gan gau drws y gegin cyn gadael y tŷ, a ataliodd y tân rhag lledaenu.

"O ganlyniad i'r rhybudd cynnar ac oherwydd bod y criwiau wedi diffodd y tân yn gyflym ac effeithlon ni ledaenodd y tân o'r gegin felly nid oedd difrod i weddill yr eiddo.

"Cofiwch, peidiwch fyth â gadael bwyd yn coginio, hyd yn oed am funud oherwydd gall tân difrifol ledaenu yn gyflym iawn.

"Fel rhan o'n archwiliadau diogelwch tân yn y cartref, rydym yn cynnig cyngor diogelwch tân sylfaenol ar sut i gadw mor ddiogel â phosib rhag tân yn eich cartref a gallwn osod larymau mwg newydd yn eich eiddo. Gall y cam syml yma olygu'r gwahaniaeth rhwng byw neu farw ac y mae'n wasanaeth sydd yn rhad ac am ddim.
I gofrestru, ffoniwch ein rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234, ymwelwch â'n gwefan www.nwales-fireservice.org.uk neu anfonwch neges destun i 88365, gan sicrhau eich bod yn rhoi HFSC ar ddechrau'r neges."


Bookmark with:

Archif