Dyddiad: 12/7/2010 15:00
Cafodd pobl ifanc o Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych gyfle i dreulio pum niwrnod fel diffoddwyr tân yng Ngorsaf Dân Y Fflint yr wythnos diwethaf, fel rhan o gynllun cwrs Y Ffenics Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Mae'r deuddeg disgybl, a oedd ar brofiad gwaith ac yn 15 mlwydd oed, yn awyddus i ymuno â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac roeddent yn awchu i gael cymryd rhan mewn ymarferion.
Bwriad yr wythnos oedd rhai blas i'r disgyblion ar y math o waith y mae diffoddwyr tân yn ei wneud. Roedd hyn yn cynnwys sesiynau corfforol ac ysgrifenedig; cymryd rhan mewn sesiynau ymarfer ac ymarferion ysgol, trin offer diffodd tân yn ogystal â gwybodaeth dechnegol yn y dosbarth.
Uchafbwynt yr wythnos oedd gorymdaith i ddathlu llwyddiant a drefnwyd ar gyfer y disgyblion yng Ngorsaf Dân Y Fflint nos Wener ddiwethaf (9fed Gorffennaf). Cyflwynodd Y Prif Swyddog Tân, Simon Smith, dystysgrifau i'r disgyblion yng nghwmni cynrychiolwyr o'u hysgolion, teuluoedd a ffrindiau.
Dywedodd Simon Smith, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: " Rwyf yn falch ein bod yn rhoi'r cyfle i bobl ifanc Gogledd Cymru ddysgu am yr y mae gyrfa gyda'r Gwasanaeth Tân yn ei olygu.
"Mae wastad yn galonogol gweld ieuenctid yn gweithio yn galed ac yn cael profiadau newydd."
Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub,
Ffordd Salesbury,
Parc Busnes Llanelwy,
Llanelwy,
Sir Ddinbych
LL17 0JJ
Ffôn: +44 (0)1745 535 250