Dyddiad: 1/2/2010 12:45
Mae'r Groes Goch Brydeinig yn gweithio gyda diffoddwyr tân lleol yng Nghonwy a Sir Ddinbych i amddiffyn trigolion y rhanbarth rhag tân.
Mewn cynllun newydd o weithio mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, mae staff y Groes Goch Brydeinig wedi bod yn rhoi cyngor ar ddiogelwch tân ac yn gosod larymau mwg am ddim yng nghartrefi trigolion y byddant yn ymweld â hwy.
Mae'r staff sy'n cynnal yr archwiliadau yn cael hyfforddiant arbennig gan ddiffoddwyr tân a gallant gyfeirio unrhyw ymholiadau eraill ymlaen at staff Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Dywedodd Glyn Jones, Rheolwr Diogelwch Sirol yn Sir Ddinbych: "Mae'r rhai sy'n agored i niwed a'r oedrannus yn ddau grŵp targed allweddol gennym, ac mae staff y Groes Goch Brydeinig yn cael mynediad at drigolion sydd heb glywed am ein harchwiliadau ac sydd heb lawer o wybodaeth am ddiogelwch tân. Drwy weithio gyda staff y Groes Goch Brydeinig, rydym yn helpu i ddiogelu bywydau nifer fawr o bobl agored i niwed yn Sir Ddinbych ac yng Nghonwy."
Ychwanegodd Bern Stevenson, Cynorthwyydd Prosiect Gofal: "Rydym yn falch o gael gweithio mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru er mwyn helpu i gryfhau'r gymuned ac amddiffyn ein trigolion mwyaf agored i niwed."
Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ddiddordeb o hyd mewn datblygu perthnasau gwaith gyda grwpiau o'r sector gwirfoddol er mwyn helpu i amddiffyn trigolion Gogledd Cymru. Os ydych yn rhan o sefydliad allai helpu i ledaenu'r gair ynglŷn â diogelwch rhag tân, cysylltwch â Kim Waller, Cydlynydd Sector Gwirfoddol ar 01745 352681 neu e-bostiwch kim.waller@nwales-fireservice.org.uk i drafod cyfleon.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim i drigolion o bob oed ar draws Gogledd Cymru. I gofrestru, ffoniwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234 neu ewch i www.nwales-fireservice.org.uk neu anfonwch neges destun at 88365, gan roi'r gair HFSC cyn eich neges.
Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub,
Ffordd Salesbury,
Parc Busnes Llanelwy,
Llanelwy,
Sir Ddinbych
LL17 0JJ
Ffôn: +44 (0)1745 535 250