Y Newyddion Diweddaraf

Dyn yn cael dihangfa lwcus yn dilyn tân sosban sglodion yn Llandrillo yn Rhos

Dyddiad: 3/2/2010 12:26

"Mae peidio â chael larymau mwg sy'n gweithio yn eich cartref yn golygu mentro eich bywyd chi a bywyd eich teulu", meddai Uwch Swyddog Tân y bore yma yn dilyn dihangfa lwcus i ddyn 60 oed o dân yng nghegin ei gartref yn Llandrillo yn Rhos neithiwr.

Galwyd diffoddwyr tân i'r eiddo ar Ffordd Mauldeth, Llandrillo yn Rhos ddydd Mawrth, Chwefror 2 am 17:01 o'r gloch ar ôl i gymdogion weld mwg yn dod o'r tŷ. Defnyddiodd diffoddwyr tân un bibell ddŵr a dwy set o offer anadlu i fynd i'r afael â'r tân a achoswyd gan sosban sglodion a oedd wedi ei gadael yn y gegin.

Ychwanegodd Justin Evans o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Nid oedd larymau mwg yn gweithio yn yr eiddo yma i rybuddio am y tân - yn lwcus iawn, fe welodd y cymydog fwg yn dod o'r tŷ a chysylltodd â'r gwasanaeth tân ac achub. Yna, daeth y preswylydd, sef dyn yn ei chwedegau, allan o'r eiddo a chafodd ei asesu gan y parafeddygon.

"Mae larymau mwg yn rhoi rhybudd cynnar sy'n galluogi preswylwyr i ddianc yn gyflym os bydd tân - rydw i wedi gweld dro ar ôl tro fod y dyfeisiadau syml hyn yn achub bywydau. Nid oes esgus i beidio â gosod un yn eich cartref.

"Sosban sglodion wedi ei gadael oedd achos y tân. Gall sosbenni sglodion achosi tân yn y cartref yn hawdd. Os byddwch yn mynd â'i gadael, dim ond ychydig funudau a gymer i'r olew ordwymo a pheri i'r sosban fynd ar dân - mae tân yn lledu'n gyflym, a gall achosi anafiadau difrifol a dinistr i eiddo. Ein cyngor ni yw i chi daflu eich hen sosban sglodion - gallwn ni roi ffriwr saim dwfn sydd wedi ei reoli gan thermostat i chi yn ei lle."

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim i holl drigolion Gogledd Cymru. Yn ystod yr ymweliad, byddant yn rhoi cyngor sylfaenol i chi ar ddiogelwch tân ac ar sut i gadw mor ddiogel â phosibl rhag tân yn y cartref. Gallant hefyd osod larymau mwg newydd ar bob llawr o'ch cartref.

I gofrestru, ffoniwch y llinell ffôn 24 awr am ddim ar 0800 169 1234 neu ewch i www.nwales-fireservice.org.uk neu anfonwch neges destun at 88365, gan wneud yn siŵr eich bod yn rhoi HFSC cyn y neges.


Bookmark with:

Archif