Dyddiad: 30/1/2010 20:53
Mae Uwch Swyddog Tân yn tynnu sylw at werth larymau mwg i achub bywydau ac yn rhybuddio am beryglon angheuol anwybyddu cyngor diogelwch tân sylfaenol ar ôl i ddynes gael ei hachub yn anymwybodol o'i chartref yn Nhreffynnon yn hwyr neithiwr.
Galwyd criwiau o Dreffynnon a Fflint i'r eiddo ym Melin y Dre, Greenfield, Treffynnon am 23:38 o'r gloch ddydd Gwener, Ionawr 29 ar ôl i gymdogion roi gwybod iddynt eu bod wedi clywed y larwm mwg yn seinio yn yr eiddo drws nesaf.
Wedi cyrraedd yno, bu'n rhaid i ddiffoddwyr tân wthio'u ffordd i mewn a daethant o hyd i'r preswylydd 41 oed yn anymwybodol ar lawr y gegin yn yr eiddo llawn mwg.
Fe'i cariwyd yn ddiogel allan a chafodd driniaeth gan y parafeddygon cyn cael ei chludo i'r ysbyty am archwiliad rhag ofn.
Dywedodd Chris Nott o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae'r digwyddiad hwn yn dangos yn glir mor bwysig yw larymau mwg a rôl cymdogion, ffrindiau a theulu wrth helpu i amddiffyn trigolion Gogledd Cymru - pe bai'r cymdogion heb glywed y larwm mwg ac ymateb drwy ffonio 999, gallem yn hawdd fod yn delio â marwolaeth arall mewn tân yma.
"Mae'n debyg i'r tân gynnau wedi i'r popty gael ei adael ymlaen yn ddamweiniol - mae'n bwysig iawn gwneud yn siŵr fod popeth wedi ei ddiffodd ar eich offer coginio ar ôl gorffen eu defnyddio a chofiwch beidio byth â mynd a gadael bwyd yn coginio.
"Fel rhan o'n harchwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim, rydym yn cynnig cyngor sylfaenol ar ddiogelwch tân yn eich cartref a gallwn osod larymau mwg newydd ar bob llawr o'ch cartref. Gall y cyngor a'r offer yma olygu'r gwahaniaeth rhwng byw a marw, ac rydym yn annog holl drigolion Gogledd Cymru i fanteisio ar y gwasanaeth hwn sydd am ddim.
"I gofrestru, ffoniwch ein llinell ffôn 24 awr am ddim ar 0800 169 1234 neu ewch i www.nwales-fireservice.org.uk neu anfonwch neges destun i 88365, gan wneud yn siwr eich bod yn rhoi HFSC cyn y neges."
Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub,
Ffordd Salesbury,
Parc Busnes Llanelwy,
Llanelwy,
Sir Ddinbych
LL17 0JJ
Ffôn: +44 (0)1745 535 250