Gair o Groeso gan y Prif Swyddog Tân

Croeso i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Ein nod yw amddiffyn cymunedau cyn i argyfyngau ddigwydd, a darparu gwasanaeth tân ac achub proffesiynol, effeithlon ac effeithiol i bawb sy'n byw, yn gweithio ac yn teithio yng Ngogledd Cymru.

 

 

Blwyddyn Newydd, Dechrau Newydd

Y mis hwn hoffwn apelio ar i bawb wneud a chadw Adduned Blwyddyn Newydd i brofi eu larymau mwg bob wythnos.

Yr adeg yma o'r flwyddyn mae nifer yn gwneud adduned i roi'r gorau i ysmygu, colli pwysau a chadw'n heini - ond gall gwneud adduned i osod larymau mwg gweithredol yn eich cartref arbed eich bywyd chi a'ch teulu.

I gadw'n ddiogel yn eich cartref byddwch barod a dilynwch y cynghorion canlynol.

Yn gyntaf, fel y soniais uchod, mae'n hanfodol bwysig eich bod yn gosod larymau mwg gweithredol yn eich cartref. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru. Yn ystod yr archwiliad byddwn yn gosod larymau mwg newydd a hynny am ddim.

Am archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim, galwch 0800 169 1234, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk Bydd gofyn i chi brofi'r larymau newydd unwaith yr wythnos.

Mae hefyd yn bwysig eich bod yn llunio cynllun dianc ymlaen llaw. Cofiwch am blant ifanc, pobl hŷn neu bobl fethedig sydd yn byw yn y cartref. Rhowch gynnig ar y llwybrau dianc, gan eu hymarfer yn y tywyllwch yn ogystal. Trefnwch fan cyswllt a gwnewch yn siŵr bod pawb yn gwybod i ymgynnull yno os bydd tân.

Cyn mynd i'r gwely, caewch y drysau a diffoddwch bob cyfarpar trydanol; peidiwch â'u gadael yn y modd segur ('standby'). Gwnewch yn siŵr bod allweddau yn cael eu cadw mewn llefydd hawdd eu cyrraedd fel y gallwch agor y drysau allanol, ond gwnewch yn siŵr nad oes modd eu gweld o'r tu allan. Gwnewch yn siŵr bod modd defnyddio unrhyw lwybrau dianc eraill mewn argyfwng. Peidiwch â gosod dim byd yn erbyn drysau neu mewn cynteddau a fydd yn eich rhwystro rhag eu defnyddio wrth geisio dianc.

Os digwydd tân ewch allan , galwch y Gwasanaeth Tân ac Achub o'r tu allan, a chaewch bob drws ar eich ôl.

Dilynwch ni ar Facebook

Efallai bod y rhai ohonoch sydd gan broffil Facebook eisoes wedi dod ar draws ein tudalen, ond os ydi'r safle rhwydweithio cymdeithasol yn dra newydd i chi pam nad ewch chi i gael sbec ar ein tudalen
www.facebook/northwalesfireservice

Os dilynwch ni, cewch y newyddion diweddaraf am y Gwasanaeth yn ogystal â chyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau ac ennill gwobrau.

 

Simon Smith - Y Prif Swyddog Tân a Phrif Weithredwr

 

 


Skip Navigation

Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub,
Ffordd Salesbury,
Parc Busnes Llanelwy,
Llanelwy,
Sir Ddinbych
LL17 0JJ
Ffôn: +44 (0)1745 535 250

Am wybodaeth ar gwrs y Ffenics i bobl ifanc


Diweddarwyd 05 Jan 2012 13:00:51