Staff Cefnogol

Mae cryn dipyn mwy na gwaith diffodd tanau yn digwydd o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Mae sawl rôl ar gyfer staff cymorth hefyd, gan gynnwys:

- Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur
- Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
- Diogelwch Tân
- Cyllid
- Rheoli Fflyd
- Rheoli Cyfleusterau
- Adnoddau Dynol
- Cyllid
- Cyfathrebu Corfforaethol (Cysylltiadau Cyhoeddus)
- Gweinyddu
- Hyfforddi.

Ar yr ochr gymorth, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig:


- Hawl hael i wyliau (22 diwrnod yn cynyddu i 27 ar ôl pum mlynedd o wasanaeth parhaus)
- 37 awr yr wythnos (rhai opsiynau rhan amser a rhannu swydd ar gael)
- System Amser Hyblyg.

 

Am wybodaeth am swyddi sy'n cael eu hysbysebu, cliciwch yma.