Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cyfrannu at amddiffyn rhyw 670,000 o bobl mewn ardal sy'n 2,400 milltir sgwâr, yn ogystal â channoedd o filoedd o dwristiaid ac ymwelwyr sy'n dod i'r ardal bob blwyddyn.
Mae dros 300,000 o eiddo domestig a thros 27,000 o eiddo annomestig yn y Gogledd sydd dan ein gofal.
Mae'r Gwasanaeth yn cyflogi dros 1,000 o staff mewn swyddi ar yr ochr weithredol a'r ochr gefnogol.
Rydym yn delio â rhyw 3,400 o danau bob blwyddyn a rhyw 900 o ddamweiniau ar y ffyrdd.
Hefyd, rydym yn derbyn dros 750 o alwadau brys eraill bob blwyddyn ac - yn anffodus - rydym yn cael rhyw 4,900 o wahannol fathau o alwadau diangen.
Rydym yn gwneud gwaith helaeth gydag ysgolion, busnesau a chymunedau yn yr ardal i hyrwyddo diogelwch ac atal tân.
Mae gan y Gwasanaeth fflyd fawr sy'n cynnwys 54 o beiriannau tân, un uned rheoli digwyddiadau a 35 o gerbydau 'arbennig' - megis cerbydau bob-tir a chludwyr ewyn.
Mae gennym ni hefyd pedwar pheiriant cyrraedd yn uchel ag ysgol ac un peiriant ag ysgol a throfwrdd, offer pwer cludadwy, offer codi a winsio ac offer arbenigol eraill er mwyn inni allu yamteb i wahanol fathau o ddigwyddiadau.
Cliciwch yma i weld strwythur rheoli Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.


Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub,
Ffordd Salesbury,
Parc Busnes Llanelwy,
Llanelwy,
Sir Ddinbych
LL17 0JJ
Ffôn: +44 (0)1745 535 250