Diffoddwyr Tân

Mae gwaith diffoddwyr tân heddiw yn eang iawn, ac mae angen sgiliau i'ch herio fwy nag y byddech wedi ei dybio.

Mae'r hyder i gydweithio ag ysgolion i addysgu pobl ifanc am atal tân, gosod larymau mwg yn nhai pobl, a siarad â chymunedau amrywiol, yr un mor bwysig â gallu delio'n effeithiol ag argyfyngau.

Nid yn unig fod angen i ddiffoddwyr tân adlewyrchu eu cymunedau, ond mae angen iddynt fod yn bobl sydd am roi rhywbeth yn ôl i'r cymunedau hynny. Rydym yn awyddus i glywed gan ferched a phobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.

Cliwiwch yma i lawrlwytho'r ddogfen 'Ydych chi wir am fod yn diffoddwr tân?'

Cliciwch yma i lawrlwytho'r ddogfen 'Y Broses ymgeisio'

Cliciwch yma i lawrlwytho'r ddogfen 'Cwestiynnau poblogaidd'


Diffoddwyr Tân llawn amser

Dyma'r gorsafoedd lle mae diffoddwyr tân llawn amser yn gweithio: Bae Colwyn, Bangor, Caergybi, Caernarfon, Glannau Dyfrdwy, Llandudno, Wrecsam a'r Rhyl.

Pan fydd ymgyrch recriwtio ar y gweill, bydd y wefan hon yn dangos y cyfnod recriwtio yn glir. Nid yw Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn rhannu ffurflenni cais yn uniongyrchol, ond fe'i rhennir gan ein darparwr gwasanaeth recriwtio. Bydd manylion cyswllt ar gyfer pecyn cais wedi eu rhestru ar adeg y recriwtio. Nid yw ffurflenni cais yn cael eu cyhoeddi na'u cadw ar unrhyw adeg arall.

Does ddim swyddi gwag ar gyfer diffoddwyr tân llawn amser ar hyn o bryd.

Cliciwch yma i ddarllen adborth y broses recriwtio Diffoddwyr Tân Llawn Amser diweddar.


Diffoddwyr Tân rhan amser

Os ydych yn hoffi'r syniad o fod yn ddiffoddwr(aig) tân, beth am ymuno â'r gwasanaeth rhan amser?

Dyma swyddi rhan amser, sy'n golygu mynd ar gyrsiau hyfforddi, sesiynau ymarfer am dair awr bob wythnos ac ymateb i alwadau pan fo angen.

Am hynny, fe gewch chi dâl cadw a thâl am bob tro y byddwch yn cael eich galw allan neu'n mynd ar sesiwn hyfforddi.

I gael eich ystyried i fod yn ddiffoddwr(aig) tân rhan amser, rhaid ichi fod yn ffit ac yn iach, dros 18 oed, yn gweld yn ddigon da (fe dderbynnir lensys mewn rhai achosion). Rhaid ichi fod yn byw neu'n gweithio o fewn pedwar munud i un o'n gorsafoedd tân, ac mae angen pobl i ymateb i alwadau yn ystod y dydd yn arbennig.

I gael gwybod am swyddi fel diffoddwyr tân rhan amser, cliciwch yma.