Ein diffoddwyr tân ydi wyneb cyhoeddus Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, ond mae adrannau eraill yn y gwasanaeth sy'n chwarae rhan bwysig.
Cyllid
Yn gyfrifol am sicrhau ein bod yn defnyddio ein hadnoddau yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol, gan fod yn gyfrifol am ymdrin ag anfonebau, casglu incwm a thalu cyflogau a lwfansau.
Adnoddau Dynol
Mae'r cyfrifoldebau'n cynnwys recriwtio, gwerthuso swyddi, cydraddoldeb a thegwch, cytundebau ac amodau gwasanaeth.
Cyfle Cyfartal
Yn darparu, yn cynnal ac yn sicrhau ymrwymiad parhaus y Gwasanaeth i gydraddoldeb, amrywiaeth a thegwch yn ein gwaith.
Cyfathrebiadau Corfforaethol
Yn darparu cysylltiadau â'r wasg, cysylltiadau cyhoeddus, cyfieithu a chyswllt â'r awdurdod tân.
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Darparu, cynnal a chadw a datblygu rhwydwaith fewnol TG y Gwasanaeth, teleffoni, cyfathrebiadau radio a gwasanaethau clyweled i 48 safle'r Gwasanaeth Tân ac Achub a thair safle Heddlu Gogledd Cymru.
Trafnidiaeth
Yn gyfrifol am gynllunio, darparu a chynnal cerbydau'r Gwasanaeth.
Y Storfa
Yn arechebu ac yn dosbarthu offer megis gwisgoedd a nwyddau.
Rheolaeth Cyfleusterau
Adran newydd sy'n gyfrifol am ddatblygu a chynnal a chadw gorsafoedd ac adeiladau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.
Y Ganolfan Sgiliau, Dysgu a Datblygu
Mae'r Ganolfan Sgiliau, Dysgu a Datblygu yn annog yr holl staff i wella'n barhaus eu datblygiad proffesiynol, ac mae'n cefnogi pawb y mae Canolfannau Asesu a Datblygu'r Gwasanaeth Tân ac Achub wedi amlygu eu potensial.
Caiff hyn ei wneud trwy'r System Integredig Datblygiad Personol ac mae'n cynnwys yr elfennau canlynol o'r System, sef y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol. Asesiadau yn y Gweithle a Chofnodion Datblygiad Personol.
Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub,
Ffordd Salesbury,
Parc Busnes Llanelwy,
Llanelwy,
Sir Ddinbych
LL17 0JJ
Ffôn: +44 (0)1745 535 250