Y Gwasanaeth Neges Destun Mewn Argyfwng

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymrwymo i gyrraedd ei gymunedau, ac i gyfathrebu â hwy. Fel gwasanaeth 999, rydym yn ymwybodol fod pobl sydd yn fyddar, yn drwm eu clyw neu â nam ar eu lleferydd yn ei chael yn anodd cysylltu â'r Gwasanaeth Tân ac Achub mewn achos brys.

Felly, rydym wedi rhoi gwasanaeth Neges Destun mewn Argyfwng ar waith, lle gall defnyddwyr o'r grwpiau targed uchod ddefnyddio technoleg ffonau symudol i gysylltu â'r Gwasanaeth Tân ac Achub mewn argyfwng. Bydd defnyddwyr cofrestredig yn cael mynediad at y Gwasanaeth Neges Destun mewn Argyfwng er mwyn anfon neges destun frys i rif cod byr (88365) a fydd yn cael ei ateb gan Ystafell Reoli'r Gwasanaeth Tân ac Achub.

Dyma'r drefn i'w dilyn, gam wrth gam, gan ddefnyddwyr cofrestredig er mwyn anfon neges destun i'w gwasanaeth tân petai yna argyfwng:


  • 1. COFIWCH
    rhaid i’ch negeseuon ddechrau gyda ‘Tân’

  • 2. Beth ydi’r argyfwng?
    Beth sydd ar dân?
    Neu a oes perygl i fywyd oherwydd
    damwain ar y ffordd neu argyfwng arall?
    Ble mae’r argyfwng?
    Enw’r stryd neu’r ffordd. Rhif y ty.
    Tref/Pentref. Cod post. Unrhyw nodwedd adnabyddus?
    Pa gyffordd ar y draffordd?

  • 3. Anfon y neges i'r rhif pwrpasol, sef 88365

  • 4. Cadw'r ffôn symudol ymlaen.6.
    Os na ddaw neges yn ôl gan y
    Gwasanaeth Tân ac Achub yn
    gofyn am ragor o wybodaeth
    neu i gadarnhau bod cymorth
    ar ei ffordd, rhaid gwneud
    trefniadau eraill i gysylltu â'r
    Gwasanaeth Tân ac Achub.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y dolenni i lawrlwytho canllaw i ddefnyddwyr ar y gwasanaeth Neges Destun mewn Argyfwng ar ffurf pdf, ac i gael manylion am y ffyrdd i gofrestru.

PWYSIG: Dim ond ar gyfer y rhai byddar, trwm eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd y mae'r gwasanaeth hwn, a dim ond i'w ddefnyddio ar gyfer cysylltu â'r gwasanaeth tân ac achub mewn argyfwng.

Yn wahanol i alwadau 999 cyffredin, nid yw negeseuon i'r gwasanaeth tân ac achub yn cael eu blaenoriaethu gan gwmnïau gweithredu rhwydweithiau ffonau symudol. Mae'r Negeseuon Testun mewn Argyfwng yn costio rhwng 10 ceiniog a 15 ceiniog, yn ddibynnol ar gost gyfredol negeseuon y ffôn symudol.

Cliciwch yma i Gofrestru.