Digwyddiad aml asiantaeth wedi ei anelu at ddisgyblion Blwyddyn 7 mewn Ysgolion Uwchradd yw'r Criw Craidd.
Rydym yn ymweld ag ysgolion yn flynyddol gyda 6 i 8 o asiantaethau gwahanol - y Gwasanaeth Tân ac Achub, yr Heddlu, y Groes Goch Brydeinig, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Cymorth i Ferched a Childline. Rhennir disgyblion Blwyddyn 7 yn grwpiau ac maent yn treulio tua 25 munud gyda phob asiantaeth yn dysgu am y neges ddiogelwch benodol honno.
Am ragor o wybodaeth ynglyn â pha bryd y byddwn yn ymweld â'ch Ysgol Uwchradd chi, cysylltwch â'n haddysgwyr, Gwawr Williams neu Melfyn Hughes ar y manylion isod:
gwawr.williams@nwales-fireservice.org.uk
07748631728
melfyn.hughes@nwales-fireservice.org.uk
07787578549
Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub,
Ffordd Salesbury,
Parc Busnes Llanelwy,
Llanelwy,
Sir Ddinbych
LL17 0JJ
Ffôn: +44 (0)1745 535 250