Addysg

Mae ein Addysgwyr Diolgelwch Cymunedol yn ymweld â phob Ysgol Gynradd ac Uwchradd yng Ngogledd Cymru i addysgu plant ynglŷn â Diogelwch Tân.

Ar hyn o bryd, rydym yn targedu disgyblion Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 4 yn yr Ysgolion Cynradd, a Blwyddyn 7 yn yr Ysgolion Uwchradd.

Gyda'r Dosbarthiadau Derbyn, rydym yn siarad am beryglon cyffwrdd â matsis. Gyda'r blynyddoedd 4 a 7, rydym yn trafod yr angen am larymau mwg yn y cartref, sut i oroesi tân, a chynlluniau dianc.

Os hoffech gael ymweliad cysylltwch â Gwawr Williams ar 01745 352688 neu Melfyn Hughes ar 01745 352690 , neu drwy e-bost.


 

Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru aelod newydd - helmed o'r enw 'Tanni'.

Tanni yw'r masgot ar gyfer Gwasanaethau Tân Cymru, ond fe'i crëwyd yn gyntaf ar gyfer y Gogledd. Bydd yn cael ei ddefnyddio i addysgu plant Cyfnod Allweddol 1 ynglŷn â diogelwch tân. Hefyd, mae Tanni i'w weld ar ein bagiau nwyddau, pensiliau a phinnau ysgrifennu.


CRIW CRAIDD ydi cynllun addysgol sydd wedi ei anelu at ddisgyblion Blwyddyn 7 ar hyd a lled Gogledd Cymru.

Mae'n ddull aml-asiantaeth o weithredu gyda'r nod o ddysgu disgyblion sut i fod yn ddiogel mewn gwahanol sefyllfaoedd peryglus.

Dyma rai o'r asiantaethau: y Gwasanaeth Tân ac Achub, yr Heddlu, y llinell gymorth plant Childline, Cymorth i Ferched, Diogelwch ar y Ffordd, Gwasanaeth Profiannaeth, Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Gwylwyr y Glannau a'r Groes Goch. Mae'r grwpiau o ddisgyblion yn symud o un asiantaeth i'r llall, gan dreulio oddeutu 20-25 munud yn gwrando ar y gwahanol negeseuon diogelwch.

Mae'r rhestr o asiantaethau wedi tyfu dros y pedair blynedd ddiwethaf, ac erbyn hyn mae gennym 'fanc' o asiantaethau y gallwn alw arnynt.

Yn ystod y flwyddyn ysgol ddiwethaf, ymwelwyd â 54 ysgol, a chafodd dros 8000 o ddisgyblion brofiad o'r CRIW CRAIDD.

Am ragor o fanylion ynglŷn â'r CRIW CRAIDD ffoniwch 01745 352693 , neu e-bostiwch.