Argyfyngau Sifil

Argyfyngau Sifil

Fel un o ymatebwyr Categori 1, mae gofyn i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil, gynnig cyngor a gwybodaeth i'r gymuned am yr hyn i'w wneud petai argyfwng sifil.

Petai argyfwng sifil yn digwydd, bydd gwybodaeth i gynorthwyo'r cyhoedd ar gael ar y dudalen yma.

 

Y Gofrestr Risg Gymunedol

Dogfen amlasiantaeth ydi'r Gofrestr Risg Gymunedol, a'i bwriad ydi rhoi sylfaen cyson i bob ymatebwr Categori 1 yn y Gogledd ar gyfer cynllunio rhag argyfyngau.

Mae ymatebwyr Categori 1 yn cynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, yr Awdurdodau Lleol, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a'r Byrddau Iechyd.

Mae'r Gofrestr yn nodi'r mathau o beryglon y gallai'r ymatebwyr ddod ar eu traws yn y Gogledd, ac yn rhoi asesiad o'r tebygolrwydd y gallai'r risgiau hynny ddigwydd mewn cyfnod o bum mlynedd.

I ddarllen y Gofrestr Risg Gymunedol ewch i wefan Cymru Gydnerth trwy glicio yma.

 

Fforwm Cymru Gydnerth

Mae Fforwm Cymru Gydnerth wedi ennill ei phlwy fel fforwm yn cynnwys holl wasanaethau brys Cymru, y Lluoedd Arfog a'r asiantaethau allweddol. Mae'n cyfarfod bob chwarter dan gadeiryddiaeth Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, neu'r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Edwina Hart. Mae'n rhoi cynghorion strategol amlasiantaeth ar amddiffyn sifil a chynllunio rhag argyfyngau, gan alluogi'r prif swyddogion i drafod materion sy'n ymwneud â bod yn barod rhag argyfyngau, a hynny yn uniongyrchol â Llywodraeth y Cynulliad.


Am ragor o wybodaeth am Fforwm Cymru Gydnerth, cliciwch yma.