Y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio

Y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005

Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n gyfrifol am adeilad busnes yn Lloegr neu yng Nghymru gweithredu o Hydref 1af 2006 ymlaen er mwyn cydymffurfio gyda cyfreithiau tân newydd sy'n haws a mwy diogel.

O'r dyddiad hynny ymlaen, fe fydd cyfraith diogelwch tân yn cael ei reoli gan un defddwriaeth ac yn y rhan fwyaf o adeiladau fe fydd tystysgrifau tân yn cael eu diddymu.

Yn lle hyn, fe fydd pwyslais ar atal tannau a lleihau risg gyda 'unigolyn cyfrifol' yn gorfod sicrhau diogelwch pawb sy'n defnyddio'r adeilad gan gynnwys gwirio cyfarpar gwarchod rhag tân a chyfleusterau.

Er mwyn helpu busnesau, mae'r llywodraeth wedi ychwanegu at y gwyboaeth sydd ar gael yn barod gyda adran newydd, rhyngweithiol ar y gwefan trothwy tân newydd (www.fire.gov.uk) sydd yn gadael i ddefnyddwur asesu y risgiau yn eu adeilad eu hunain.

Bydd y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (y Gorchymyn) yn dod i rym ar Hydref 1af 2006. Bydd y Gorchymyn yn diddymu'r Ddeddf Rhagofalon Tân 1971 ac yn dirymu'r Rheoliadau Rhagofalon Tân (Gweithle) 1977 fel y'u diwygiwyd.

Arweiniad cryno i'r Gorchymyn yw'r atodiad hwn, ac i gael rhagor o wybodaeth dylid darllen y ddeddfwriaeth.

 

Perthnasedd

Mae'r Gorchymyn yn berthnasol i bob safle ac eithrio anheddau domestig sengl a rhai safleoedd arbenigol penodol.

 

Y Sawl sy'n gyfrifol

'Y sawl sy'n gyfrifol' fydd yn gyfrifol am gyflawni'r dyletswyddau dan y Gorchymyn, a gall fod mai hwnnw/honno fydd y cyflogwr mewn sefyllfa gweithle, y sawl sydd â rheolaeth am y safle, i'r graddau y mae ganddo/ganddi y rheolaeth hwnnw, neu'r perchennog.

 

Dyletswyddau dan y Gorchymyn

Rhaid i'r sawl sy'n gyfrifol wneud asesiad risg tân sy'n addas ac yn ddigonol o'r rhagofalon tân cyffredinol a chymryd mesurau:-

(a) i leihau'r risg o gael tân ac i dân ledu ar y safle;

(b) mewn perthynas â'r diangfeydd o'r safle;

(c) sicrhau y gellir defnyddio'r diangfeydd yn ddiogel ac yn effeithiol ar yr holl adegau perthnasol;

(ch) mewn perthynas â'r dulliau o ddiffodd tanau ar y safle;

(d) mewn perthynas â'r dulliau o adnabod tân ar y safle a rhybuddio os oes
tân; a

(dd) mewn perthynas â'r trefniadau i ddilyn camau os oes tân ar y safle, yn cynnwys:-

(i) mesurau sy'n ymwneud â hyfforddi gweithwyr; a
(ii) mesurau i leihau effeithiau'r tân.

 

Gorfodaeth

Heblaw am rai safleoedd arbenigol, yr Awdurdod Tân fydd yr Awdurdod Gorfodi dan y Gorchymyn. Gallai'r Gwasanaeth Tân ac Achub, ar ran yr Awdurdod Tân, drefnu, ar unrhyw adeg rhesymol, i archwilio'r safle a'r asesiad risg er mwyn cadarnhau ei fod yn cydymffurfio â'r Gorchymyn.

Dyletswydd y Gwasanaeth Tân ac Achub fydd gweithio gyda'r sawl sy'n gyfrifol i sicrhau safle diogel, fodd bynnag, mae'r opsiynau o ran gorfodaeth mewn achos o beidio â chydymffurfio yn cynnwys:-

(a) hysbysiad am ddiffygion
(b) hysbysiad gorfodi
(c) hysbysiad addasu
(ch) hysbysiad gwahardd

Yn achos hysbysiadau statudol, mae gan y sawl sy'n gyfrifol hawl i apelio i'r llys o fewn 21 niwrnod.

 

Canllawiau

I gefnogi'r ddeddfwriaeth, mae'r Adran dros Gymunedau a Llywodraeth Leol wedi llunio cyfres o ganllawiau y gellir eu prynu gan y Stationary Office neu i'w llwytho i lawr o'r wefan, cliciwch yma.

Rhagor o Wybodaeth

Am ragor o wybodaeth am yr uchod, cysylltwch â'ch swyddfa leol o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.