Mae gan y Rhyl ei gorsaf dân gymunedol ei hunan!
Mae'r orsaf dân gymunedol newydd yn orsaf dân gwbl weithredol, ac yn cynnig amrediad o gyfleusterau i'r gymuned gan gynnwys ystafelloedd cyfarfod, sy'n gallu cael eu llogi gan grwpiau neu fusnesau lleol.
Mae'r cyfleusterau yma wedi eu creu ar gyfer defnydd y gymuned:
- Ystafell amlbwrpas gyda 50-60 o seddi gyda chyfleusterau i'w defnyddio fel ystafell ddarlithio neu gyfarfod.
- Ystafelloedd eraill gyda chyfleusterau i'w defnyddio fel ystafelloedd cyfarfod/darlithio.
- Derbynfa gyda cyfrifiaduron ar gyfer defydd y cyhoedd.
- Ardal i gael golwg ar yr ystafell teclynnau.
- Sgrin arddangos ddigidol ar gyfer taflunio negeseuon diogelwch fel bod y cyhoedd yn gallu eu darllen wrth gerdded heibio.
- Man parcio digonol.
Mae gan bob ystafell ddarlithio ffwythiannau TG (taflunydd digidol, system cynhadleddu fideo a system sain)
Mae'r gwaith canlynol wedi ei wneud ar ochr weithredol yr orsaf:
- Modurdai sy'n bodoli'n barod (ardal gampfa), gweithdy a modurdai cyfagos, ystafell BA, ystafell pibell a modurdai cyfagos wedi eu hail- leoli.
- Ystafell locer newydd gyda chawod a chyfleusterau newid.
- Ystafelloedd newydd unigol ar gyfer astudio/ gorffwyso.
- Ystafell locer newydd wedi ei adeiladu yn arbennig ar gyfer Cymdeithas Diffoddwyr Tân yr Ifanc, gyda chyfleusterau bwrdd gwyn a mynediad uniongyrchol i'r iard hyfforddi.
- Ystafell BA newydd, ystafell pibell a chyfleusterau storfa wedi eu lleoli yn yr ystafell declynnau.
- Ardal pecyn tân newydd gyda storfa ddiogel ar gyfer pecynnau tân, ynghyd â chyfleusterau glanhau a sychu.
- Ystafell fwyta newydd gydag ystafell adloniant.
- Campfa newydd
- Ardal newydd i lanhau teclynnau.
GwaithyYmchwil sydd wedi cael ei wneud:
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymweld â nifer o Orsafoedd Tân Cymunedol ar draws y wlad. Mae un, yn Handsworth, Gorllewin Canolbarth Lloegr, wedi gweld dros 73,000 o bobl yn pasio trwy eu drysau ers iddi agor yn swyddogol.
Am ymholiadau, cysylltwch â Kevin Davies, Rheolwr Y Gorsaf Dân Gymunedol ar 01745 352722, neu e-bostiwch kevin.davies@gwastan-gogcymru.org.uk.
Cliwich yma i ddarllen yr adroddiad Tân Cyntaf gyda manylion ein ymgynghoriad cyhoeddus.
Cliciwch yma i weld copi o gylchlythyr Rhyl Cyntaf - Ionawr 2007.
Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub,
Ffordd Salesbury,
Parc Busnes Llanelwy,
Llanelwy,
Sir Ddinbych
LL17 0JJ
Ffôn: +44 (0)1745 535 250