Yn y gorsafoedd tân

Cynhelir rhai o'n prosiectau yn ein gorsafoedd tân, fel y gall pobl ifanc weld sut mae gorsafoedd yn gweithio, a deall gwaith diffoddwyr tân o ddydd i ddydd.


Cymdeithas y Diffoddwyr Tân Ifanc

Mudiad ar gyfer pobl ifanc ydi Cymdeithas y Diffoddwyr Tân Ifanc, ac mae'n cael ei redeg gan wasanaethau tân awdurdodau lleol mewn partneriaeth â Chymdeithas Hyfforddiant Ieuenctid y Gwasanaethau Tân (FSYTA), sef elusen gofrestredig gyda gweithwyr ieuenctid proffesiynol.

Nod Cymdeithas y Diffoddwyr Tân Ifanc ydi ennyn diddordeb pobl ifanc yn ethos cadarnhaol y gwasanaeth tân, gan eu gwneud yn fwy ymwybodol o faterion diogelwch tân ac o'u rol mewn cymdeithas. Mae hefyd yn gobeithio ysbrydoli pobl ifanc i fod yn well dinasyddion.

Mae'r Gymdeithas yn agored i bobl ifanc rhwng 11 ac 17 oed. Mae saith cangen yma yn y Gogledd Cymru sef yn Abermaw, Amlwch, Caergybi, Conwy, Dolgellau, Prestatyn a'r Waun.

Mae ffug ddriliau, ymweliadau, darlithoedd, cystadlaethau a materion diogelwch cymunedol ymhlith rhai o'r gweithgareddau y gall pobl ifanc gymryd rhan ynddynt.

Fel arfer, bydd y Gymdeithas yn cyfarfod un noson yr wythnos yn eu gorsaf dân leol, ac o bryd i'w gilydd bydd yr aelodau'n mynd i wersylloedd ac yn cymryd rhan mewn cystadlaethau.


Prosiect y Ffenics

Mae Prosiect y Ffenics ar y gweill gyda phobl ifanc yng Ngogledd Cymru er mwyn rhoi sylw i faterion megis cynhwysiant cymdeithasol, bwlio, hunan-werth isel ac ymddygiad gwrth gymdeithasol.

Bydd y bobl ifanc yn ymweld â Gorsaf Dân am bum niwrnod, ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau megis driliau diffodd tân, hyfforddiant diffodd tân, diogelwch tân, cymorth cyntaf, dulliau chwilio ac achub, adeiladu tim, dringo a chanŵio.

Yn ystod yr wythnos ,maent yn dysgu sut i weithio gyda'i gilydd yn ogystal â gyda'r diffoddwyr tân, yn ennill sgiliau newydd ac yn darganfod talentau cudd. Maent hefyd yn dysgu gwerthfawrogi pa mor bwysig ydi cyfathrebu, gwaith tîm, ymddiriedaeth a chyfeillgarwch, ac wrth gwrs, maent yn cael hwyl ar yr un pryd!

Mae'r wythnos yn dod i ben gyda'r bobl ifanc yn cynnal arddangosfa diffodd tân ar gyfer eu teulu, ffrindiau ac uwch swyddogion y Gwasanaeth Tân ac Achub, sydd wedyn yn cyflwyno tystysgrifau cyrhaeddiad i'r bobl ifanc.


Am ragor o wybodaeth ynglŷn â Chymdeithas Diffoddwyr Tân Ifanc neu'r Ffenics, cysylltwch â Simon Wilson ar 01492 564 948, neu anfonwch e-bost.