Yn eich cymuned

Mae ein hadran Diogelwch Tân Cymunedol yn gyswllt rhwng gorsafoedd tân a'n partneriaid eraill mewn diogelwch cymunedol.


Rydym yn gweithio gydag asiantaethau a sefydliadau eraill i gyrraedd unigolion a grwpiau sy'n wynebu mwy o risg tân. Er enghraifft, trwy weithio'n agos gydag asiantaethau megis Help the Aged ac Age Concern, rydym yn targedu pobl hŷn a allai fod mewn perygl. Rydym yn gwneud Archwiliadau Diogelwch Tân yn y Cartref yn rhad am ddim, ac yn darparu ac yn gosod larymau tân lle bo'r angen.

Hefyd rydym yn ymwneud ag amryw o gynlluniau a gwahanol brosiectau gyda phobl ifanc, mewn partneriaeth agos â'r Prince's Trust a'r Timau Troseddau Ieuenctid, i'w haddysgu ynglŷn â thân, ac er mwyn ceisio gostwng nifer y galwadau maleisus a thanau bwriadol. I gefnogi'r nod hwn, mae'r Gwasanaeth wedi dechrau rhaglen hyfforddi addysgol gynhwysfawr gyda disgyblion ysgol drwy'r Gogledd.


Sefydlwyd yr adran Diogelwch Tân Cymunedol ym 1998 i redeg mentrau diogelwch tân drwy'r ardal, ac i gefnogi ymgyrchoedd sy'n cael eu gyrru yn lleol. Mae'r Adran yn cynnwys dau reolwr gwylfa, dau reolwr criw a gweithredydd o'r ystafell reoli.


Er mwyn gofyn am Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref yn rhad ac am ddim neu i gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch tân ffoniwch yr Adran Diogelwch Tân Cymunedol ar 01745 352693 neu anfonwch e-bost.