Yn 2003, roedd 3,401 o danau mewn adeiladau diwydiannol a achosodd 3 o farwolaethau a 153 o anafiadau eraill. Hefyd, mae tân yn costio'n ddrud. Ar gyfartaledd, mae pob tân mewn adeilad diwydiannol/masnachol yn costio oddeutu £60,100.
Mae gan bob cyflogwr gyfrifoldeb i sicrhau diogelwch gweithwyr ac ymwelwyr rhag effaith tân yn ystod oriau gwaith ac mewn lleoedd gwaith.
Rhaid i chi ystyried y materion canlynol a rhoi sylw iddynt:
A ydych chi wedi asesu risg tân? Bydd tân yn digwydd pan fydd fflam neu arwyneb poeth yn dod i gysylltiad â deunydd y gellir ei losgi. Mae rheoli'r naill neu'r llall o'r elfennau hyn yn gostwng risg tân yn sylweddol.
A yw eich staff wedi cael eu hyfforddi ynglŷn â beth i'w wneud mewn tân? A fyddwch chi'n cynnal ymarferion tân?
Mae tanau bwriadol yn fygythiad difrifol, ac mae pob adeilad mewn perygl. A ydych chi wedi asesu'r risg i'ch adeilad? Pa mor effeithiol yw eich diogelwch?
Mae'r ddeddfwriaeth ganlynol yn berthnasol i leoedd gwaith - rhaid i gyflogwyr wybod beth yw eu cyfrifoldebau dan y deddfau hyn. Cliciwch ar y cysylltiadau isod i gael rhagor o fanylion.
Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005
Deddf Trwyddedu 2003
Deddfwriaeth arall
Er mwyn cael manylion am ein cyrsiau hyfforddi, neu am ragor o wybodaeth a chyngor, cysylltwch â'ch swyddfa ddiogelwch sirol leol.
Gallwch gael y llyfrau log yma:
Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub,
Ffordd Salesbury,
Parc Busnes Llanelwy,
Llanelwy,
Sir Ddinbych
LL17 0JJ
Ffôn: +44 (0)1745 535 250