Yn y cartref

Bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig mae dros 68,000 o danau mewn cartrefi, sy'n achosi 400 o farwolaethau ac 13,800 o anafiadau.

Mae'r rhan fwyaf o danau yn y cartref yn cychwyn yn y gegin: mae bron i 20 o bobl y dydd yn y Deyrnas Unedig yn cael eu lladd neu eu hanafu mewn tanau yn y gegin.


Dyma ddeuddeng cyngor i'w dilyn er mwyn bod yn ddiogel rhag tân yn y cartref

  1. Gosodwch larymau tân ar bob lefel yn eich tŷ. Cadwch nhw'n lân rhag llwch, a'u profi unwaith yr wythnos. Beth am brynu larwm 10 mlynedd, neu fel arall newidiwch y batris yn eich larwm bob blwyddyn.
  2. Gwnewch gynllun dianc gweithredu ar gyfer tân fel bod pawb yn eich cartref yn gwybod sut i ddianc petai yna dân.
  3. Cadwch y ffyrdd am allan yn glir fel y gall pobl ddianc os bydd tân. Gwnewch yn siŵr fod pawb yn eich tŷ yn gallu dod o hyd i oriadau'r drysau a'r ffenestri yn hawdd.
  4. Byddwch yn ofalus iawn yn y gegin - mae dros hanner y tanau mewn cartrefi yn digwydd yn y gegin. Peidiwch byth â gadael plant ifanc ar eu pennau eu hunain yn y gegin.
  5. Byddwch yn ofalus iawn wrth goginio gydag olew poeth. Gallech ystyried brynu padell ffrio ddofn sy'n cael ei rheoli gan thermostat (os nad oes gennych un yn barod).
  6. Peidiwch byth â gadael canhwyllau wedi eu cynnau mewn ystafelloedd gwag neu mewn ystafelloedd lle mae plant ar eu pennau eu hunain. Gwnewch yn siŵr bod canhwyllau wedi eu gosod yn ddiogel mewn llestr addas ar arwyneb sydd ddim yn llosgi a'u bod yn bell oddi wrth unrhyw ddeunydd a allai losgi.
  7. Gwnewch yn siŵr fod sigarennau wedi eu diffodd yn iawn a bod y stympiau'n cael eu rhoi mewn cynhwysydd diogel, a pheidiwch byth ag ysmygu yn y gwely.
  8. Dechreuwch fynd i'r arferiad o gau'r drysau bob nos. Os ydych eisiau gadael drws ystafell wely plentyn yn agored, caewch ddrysau'r ystafell fyw a'r gegin. Gall hyn achub eu bywydau os bydd tân.
  9. Peidiwch â gorlwytho socedi trydan. Cofiwch, un plwg ar gyfer pob soced.
  10. Cadwch y matsis a'r taniwr lle na all plant eu gweld na'u cyrraedd.
  11. Byddwch yn ofalus iawn pan fyddwch wedi blino neu wedi bod yn yfed.
  12. Peidiwch â rhoi'r teledu neu offer trydanol eraill i "gysgu" - fe allai hyn achosi tân. Dylech eu diffodd yn llwyr bob amser, a thynnu'r plwg allan pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.

Cliciwch yma am ragor o fanylion ynglŷn â sut i fod yn ddiogel rhag tân yn y cartref.