Gweithredwyr yr Ystafell Reoli

Jules and ToddlerY Gweithredwyr yn yr Ystafell Reoli ydi'r cyswllt cyfathrebu hanfodol rhwng ein gwasanaethau diffodd tân, achub a dyngarol, a'r cyhoedd sydd eu hangen.

 


Mae rôl y Diffoddwr tân, Rheoli yn ymwneud â delio â galwadau brys a rhai di-frys. Maent yn delio gydag amrediad eang o ddigwyddiadau, gan gynnwys damweiniau ffordd, achub anifeiliaid a sawl sefyllfa frys arall. Y gofynion ar gyfer mynediad i’r rôl hon yw sgiliau allweddell da a’r gallu i gyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Dyma’r broses recriwtio Diffoddwyr tân, Rheoli:

• Ffurflen gais (Papersift)

• Profion Ymarferol – Mae’r rhain yn cynnwys profion rhifedd a rhesymu llafar, prawf teipio a chyfieithiad Cymraeg

• Cyfweliad – Mae’r cyfweliad yn seiliedig ar rinweddau a nodweddion personol, a’r bwriad yw i’r ymgeisydd dynnu ar ei brofiad. Bydd rhan o’r cyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg

• Mae cynnig gwaith i unrhyw rôl yn ddibynnol ar ganolwyr boddhaol, profion meddygol a phrofion y Swyddfa Gofnodion Troseddol.