Ystafell Reoli'r Gwasanaeth ydi'r cyswllt hanfodol rhwng y cyhoedd mewn angen a'n timau brys.
Pan fydd rhywun yn yr ardal yn deialu 999 neu 112 ac yn gofyn am y Gwasanaeth Tân ac Achub, byddant yn dod drwodd i staff yr Ystafell Reoli yn y Rhyl.
Staff yr Ystafell Reoli sy'n gyfrifol am anfon y criwiau a'r peiriannau tân allan o'r 44 o orsafoedd tân yn yr ardal, ynghyd ag unrhyw offer arbenigol sydd ei angen.
Mae'r staff yn ymdrin â rhyw 97,000 o alwadau bob blwyddyn, ac mae rhyw 19,000 'r rhain yn alwadau brys, a llawer yn rhai sy'n ymwneud â sefyllfaoedd sy'n bygwth bywydau. Mae'r gweithredwyr wedi cael eu hyfforddi i ddelio â phobl sy'n sownd yn rhywle ac angen cymorth i aros yn fyw. Mae yna alwadau eraill sy'n llai difrifol ond sydd hefyd yn peri gofid ac ofn.
Mae'r galwadau brys yn ymwneud ag amryw o wahanol ddigwyddiadau, megis tanau, damweiniau ar y ffyrdd, digwyddiadau lle mae deunyddiau peryglus, llifogydd a mwy.
Mae staff yn yr Ystafell Reoli bedair awr ar hugain y dydd, bob dydd o'r flwyddyn. Mae'r staff yn gweithio mewn timau gyda thechnoleg gwybodaeth soffistigedig i'w cynorthwyo i anfon yr adnoddau cyflymaf a mwyaf priodol o'n gorsafoedd tân i unrhyw le yn y Gogledd.
Mae staff yr Ystafell Reoli wedi cael eu datblygu'n fawr, mae ganddynt sgiliau dwyieithog da ac maent yn gallu meddwl yn sydyn a rhoi cyfarwyddiadau'n gywir. Mae angen iddynt drin data cynhwysfawr yn ymwneud â'r digwyddiadau sy'n mynd ymlaen.
Yn ogystal ag yamteb i alwadau 999 ac anfon y peiriannau tân allan i ddigwyddiadau, maent hefyd yn cyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau a rhaid iddynt fod yn graff a bod mewn cysylltiad ag aelodau'r gwasanaeth, asiantaethau eraill, y cyhoedd a'r cyfryngau.
Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub,
Ffordd Salesbury,
Parc Busnes Llanelwy,
Llanelwy,
Sir Ddinbych
LL17 0JJ
Ffôn: +44 (0)1745 535 250