Y Pwyllgor Safonau

Sefydlwyd y Pwyllgor Safonau yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol 2000, a gosodwyd ei Gylch Gwaith yn 2003. Mae ei ddyletswyddau'n cynnwys ystyried cwynion yn erbyn aelodau'r Awdurdod sy'n cael eu cyfeirio ato gan yr Ombwdsmon a chaniatáu gollyngiadau. Mae hefyd yn cynghori'r Awdurdod ar faterion yn ymwneud â safonau.

 


Mae'r pwyllgor yn cynnwys 6 aelod, a phedwar ohonynt yn annibynnol. Ni all y cynrychiolwyr sydd o blith yr Awdurdod Tân ac Achub fod yn rhai sydd â swydd ar yr Awdurdod. Mae'r Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd yn dod o blith yr aelodau annibynnol.

Rhaid i'r pwyllgor gyfarfod o leiaf unwaith y flwyddyn, ond fe allant gyfarfod yn amlach os oes angen.


Cliciwch yma i weld Cylch Gwaith y Pwyllgor

Aelodaeth y Pwyllgor

Aelodau Annibynnol


Simon Fysh (Cadeirydd)
Celia L Blomeley
Jane A Eyton-Jones

Cynrychiolwyr o Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

Cynghorydd Merfyn Thomas
Cynghorydd Glyn Williams