Yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, rydym yn credu y dylid, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, drin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal.
Rydym yn gwasanaethu amrywiaeth gyfoethog o gymunedau, a threftadaeth naturiol a diwylliannol yn gefn iddynt.
Rydym yn ceisio darparu gwasanaethau yn deg i bob ardal yng Ngogledd Cymru. Rydym yn cydnabod ein dyletswydd at ein staff hefyd, mae'r rhan fwyaf ohonynt yn byw yng Ngogledd Cymru eu hunain ac yn adlewyrchu cyfansoddiad ieithyddol a diwylliannol eu cymunedau eu hunain.
Rydym ni'n ymfalchio ein bod wedi cymryd yr iaith o ddifri ers blynyddoedd. Trwy gydnabod ein dyletswyddau moesol a chyfreithiol i ateb disgwyliadau'r cyhoedd ac i amddiffyn treftadaeth ddiwylliannol yr ardal, rydym hefyd yn cydnabod bod manteision cadarnhaol i'w cael i'r gwasanaeth trwy gynnal ein busnes cyhoeddus yn y ddwy iaith. Mae arbed bywydau a lleihau risg wrth galon cenhadaeth yr Awdurdod -mae'r iaith yn hanfodol i'w lwyddiant.
Ein gwasanaeth i chi:
Mae Cynllun Iaith Gymraeg Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru 2010 - 2013 yn gosod sut fydd yr Awdurdod yn glynu at yr awdurdod y bydd yn trin yr ieithoedd Saesneg a Chymraeg ac yn anelu i gyflwyno'r un safon ac ansawdd uchel yn y ddwy iaith.
Mae'n bwriadu;
- cynnig gwir ddewis iaith i'r cyhoedd
- cydnabod fod y defnyddwyr gwasanaeth yn gallu mynegi eu barnau ac anghenion yn eu hiaith ddewisol
- cydnabod fod cynnig dewis iaith yn fater o ymarfer da ddim yn gonsesiwn.
Mae'r cynllun yn cael ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg o dan adran 16 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac yn cael ei adolygu'n rheolaidd.
Mae'r Strategaeth Sgiliau Ieithyddol yn ofyniad statudol i ddarparu modd o ymateb yn briodol i ymrwymiadau'r Gwasanaeth sydd yn y Cynllun Iaith Gymraeg. Diben y strategaeth yw symud y Cynllun Iaith Gymraeg yn ei flaen drwy ddarparu rhwydwaith fewnol wedi ei gynllunio, strategol i'w weithredu yn y dyfodol.
Yn hanfodol, mae hyn yn golygu staffio'r Gwasanaeth yn unol gyda'r Cynllun Iaith Gymraeg er mwyn galluogi'r ddarpariaeth o wasanaethau o ansawdd, cyfleuster a lled gyfartal yn Saesneg a Chymraeg. Mae'n golygu bodloni anghenion y gwasanaeth pan fo prinder o siaradwyr Cymraeg o fewn y gweithlu drwy fabwysiadu a gweithredu'r Strategaeth hon.
Felly, mae angen i'r Strategaeth Sgiliau Ieithyddol;
- Hwyluso'r gweithrediad cywir o'r Cynllun Iaith Gymraeg statudol mewn perthynas â staffio gwasanaethau i'r cyhoedd
- Prif-ffrydio'r Strategaeth yng nghyd-destun agweddau allweddol o reolaeth gorfforaethol.
Fel rhan o'r Strategaeth hon, i fis Ionawr 2009 ymlaen, rhaid i bob aelod o staff gael y gallu i ddangos sgiliau cwrteisi iaith Gymraeg (Lefel 1) cyn ymuno gyda'r Gwasanaeth. Mae'r pwyslais ar siarad Cymraeg ac mae'r prawf 15 munud yn un llafar sy'n cael ei recordio (darperir cymorth o flaen llaw mewn ffurf CD).
O fis Ionawr 2010, caniateir i staff newydd gael cyfnod penodol o amser ar ôl apwyntiad ffurfiol i gyflawni Lefel 2 - gwneir hyn o fewn 12018 mis i staff llawn amser a chefnogi ac o 18 mis i staff rhan amser.
Cliciwch yma i weld sgriptiau'r CDs.
Yn ddiweddar, fe gymeradwyodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Gynllun yr Iaith Gymraeg diwygiedig Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am weithrediad y cynllun ar gael drwy gysylltu â'r Adran Cyfathrebiadau Corfforaethol ar 01745 535 250, neu cliciwch yma.
Eich Sylwadau
Os oes gennych unrhyw sylwadau am ein gwasanaeth, os gwelwch yn dda cysylltwch â:
Colin Hanes,
Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Ffordd Salesbury, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych LL17 OJJ
Ffôn: 01745 535250 neu e-bost.
Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub,
Ffordd Salesbury,
Parc Busnes Llanelwy,
Llanelwy,
Sir Ddinbych
LL17 0JJ
Ffôn: +44 (0)1745 535 250