Mae gan y Panel Gweithredol swyddogaeth eithaf amrywiol gan ymdrin â phynciau megis penodi uwch swyddogion, ystyried materion yn ymwneud â disgyblaeth a phensiynau, ymdrin â materion archwilio penodol yn ogystal ac ymdrin â materion polisi a chyfansoddiadol fel y cyfyd yr angen.
Mae fel arfer yn ymdrin ag ymatebion i bapurau ymgynghorol a datblygiadau eraill o ran polisi, ac yn gwneud argymhellion i'r awdurdod tân ar ei bolisau allweddol, gan gynnwys y Cynllun Lleihau Risg. Mae'r Panel, fel arfer, yn ymdrin â phenodi is-bwyllgor arbennig at y diben.
Gosodwyd Cylch Gwaith y Panel yn 2001 ac fe'i hadolygir fel y bo'r angen. Mae'n cynnwys y Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd a dau aelod o bob awdurdod cyfansoddol (pedwar ar ddeg i gyd). Y Cadeirydd neu, yn ei absenoldeb, yr is-Gadeirydd, sy'n ei gadeirio.
Mae'n cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn, rhwng cyfarfodydd yr Awdurdod Tân ac Achub, er y gellir cynnal cyfarfodydd ychwanegol yn dibynnu ar y gwaith, ac yn benodol, pa faterion personél sydd angen eu trafod.
Cliciwch yma i weld Cylch Gwaith y Panel Gweithredol
Cynghorydd Sharon Frobisher, Sir Ddinbych (Cadeirydd)
Cynghorydd Aled Morris Jones, Ynys Môn (Is-Gadeirydd)
Cynghorydd Lewis W Davies, Ynys Môn
Cynghorydd Meirick Ll Davies, Sir Ddinbych
Cynghorydd Brian Dunn, Sir y Fflint
Cynghorydd Gwilym C Evans, Sir Ddinbych
Cynghorydd Terry Evans, Wrecsam
Cynghorydd Pat Jeffares, Wrecsam
Cynghorydd Grenville James, Sir y Fflint
Cynghorydd J V Owen, Ynys Môn
Cynghorydd W Tudor Owen, Gwynedd
Cynghorydd Bill Roberts, Conwy
Cynghorydd Trevor Roberts, Gwynedd
Cynghorydd Merfyn Thomas, Conwy
Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub,
Ffordd Salesbury,
Parc Busnes Llanelwy,
Llanelwy,
Sir Ddinbych
LL17 0JJ
Ffôn: +44 (0)1745 535 250